“Nid pob dydd ti’n gweld y Welsh Whisperer yn uwch na Dolly Parton yn y siartiau,” meddai’r canwr o Gwmfelin Mynach wrth golwg360 ar ôl iddo gyrraedd rhif tri yn siartiau canu gwlad Prydain ar iTunes.
Mae ei gân Saesneg o fawl i heolydd ‘B’ Cymru, ar label Recordiau Hambôn, yn sôn am deithio ar hyd a lled Cymru, ac yn cyfeirio – yn Gymraeg – at roi “troed i lawr yn fflat i’r mat” wrth deithio “all over Wales, north, east, south and west”.
Mae’r heolydd yn mynd â fe “through to places that I’ve never seen before”.
Mae ar gael i’w lawrlwytho o iTunes a Spotify, ac mae eisoes wedi cael miloedd o ‘hits’ ar y we.
Ar hyn o bryd, dim ond Kacey Musgraves, ‘Rainbow’, a The Chicks, ‘March March’ sydd uwch ei ben.
O rif 52 i rif 5 – erbyn mynd â’r ci am dro!
“Dim pob dydd ti’n gweld y Welsh Whisperer yn uwch na Dolly Parton yn y siartiau,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n wych oherwydd, er bod y gân yma yn Saesneg, mae’n sôn am garu bywyd ar yr heol yng Nghymru, ac mae’n arwain dilynwyr newydd at lot o ganeuon Cymraeg gan gynnwys hen ffefrynau’r Welsh Whisperer ac artistiaid eraill o Gymru.
“Yr unig ffordd i gyrraedd big y siartiau yma yw trwy brynu’r gân ar yr iTunes store, ond mae prynu unrhywle arall fel Amazon a.y.b. yn grêt hefyd ac wrth gwrs ffrydio ar Spotify ac Apple music cymaint â phosib heb yrru eich hun yn insane!
“Mae fideo i’r gân hefyd ar youtube sydd yn cynnwys clipiau o gigs bach a mawr ar hyd a lled y wlad dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae wedi bod yn braf gallu dathlu hwnna yn ystod y cyfnod clo.”
Dywed y Welsh Whisperer iddo gael ei synnu gan lwyddiant y gân, a bod y cyfan wedi digwydd wrth iddo fe fynd â’i gi am dro.
“Sai fel arfer yn checio siartiau canu gwlad iTunes na dim byd, ond gan fod y gân yma wedi ei dosbarthu gan hyrwyddwyr canu gwlad yn Iwerddon yn ogystal â PYST fan hyn yng Nghymru, roeddwn i’n meddwl falle bod e werth cael golwg,” meddai.
“Roeddwn i’n ymwybodol bod y gân wedi ei chwarae ar sawl gorsaf radio yn Iwerddon, diolch i berthynas dda gyda hyrwyddwyr canu gwlad yna, er doeddwn i ddim yn disgwyl gweld enw’r Welsh Whisperer o gwmpas enwau fel Garth Brooks, Luke Coombs a George Strait!
“Gwelais fod y gân yn rhif 52 yn y siart ac es i ati i bostio ar lein i weld os allwn ni gyrraedd y 10 uchaf.
“Eto heb ddisgwyl llawer ond yn wondran tybed pa mor bell galle’r gân mynd a faint o bobl fyddai angen i brynu’r trac ar yr iTunes store i gyrraedd uchelfannau’r siart, es i am dro gyda’r ci.
“Erbyn i fi ddod yn ôl, ges i negeseuon gan ddilynwyr ar Snapchat yn dweud bod y gân yn y 10 uchaf ac roedd wedi cyrraedd rhif 5!”
O nerth i nerth
Mae’r Welsh Whisperer yn diolch i’w ddilynwyr ffyddlon am lwyddiant y gân, sy’n dal i fynd o nerth i nerth yn y siart.
“Bellach mae yn rhif 3 diolch i help gan nifer o ddilynwyr ffyddlon a’r dilyniant cryf ar y cyfryngau cymdeithasol (tua 60k rhwng y platfformiau i gyd).
“Rwy’n gobeithio gallu cyffwrdd â rhif 1!
“Cymeriad poblogaidd ar twitter yw ffan enwog CPD Wrecsam, Bootlegger ac mae wedi postio cwpwl o fideos yn mwynhau’r gân i’w 300k+ o ddilynwyr a hyd yn oed gwahodd fi i ganu yn ei barti penblwydd ar y patio pan fydd yn ddiogel i wneud!”