Ed Holden
Mae’r rapiwr Ed Holden wedi dweud wrth golwg360 bod cael ei gynnwys ar drac hip hop ryngwladol newydd yn “uchafbwynt” i’w yrfa.
Cafodd y Cymro – sydd yn cael ei adnabod fel Mr Phormula yn y sin cerddorol – ei gynnwys ar gân newydd sydd yn cynnwys cyfuniad o 14 rapiwr o bob cwr o’r byd.
Mae pob un o’r 14 yn rapio yn eu hiaith eu hunain ar y trac #HIPHOPISHIPHOP – Hip Hop for the World, gyda Sony eisoes yn paratoi i ryddhau’r gân yn rhyngwladol.
Ac mae fideo’r trac, gyda chyfieithiad Saesneg o eiriau pob rapiwr, eisoes wedi cael ei wylio dros 230,000 o weithiau ers cael ei chyhoeddi ar YouTube wythnos yn ôl.
Cynrychioli Cymru
Mr Phormula sydd yn cynrychioli Cymru ar y trac, gan rapio yn y Gymraeg ochr yn ochr â cherddorion o 13 o wledydd eraill – De Corea, Bosnia, Yr Eidal, Singapore, India, Portiwgal, Indonesia, Bangladesh, Japan, Yr Aifft, Taiwan, Y Ffindir a’r UDA.
Ymysg y rapwyr adnabyddus sydd ar y trac mae San E o Dde Corea a KRS-One o’r Unol Daleithiau, ac er bod yr artistiaid wedi recordio eu cyfraniadau yn unigol mae Ed Holden dal yn falch o gael rhannu’r llwyfan gyda rhai o sêr y byd hip hop.
“Roedd o’n brosiect mor fawr, roedd o’n anodd iddyn nhw gael pawb at ei gilydd – felly wnaethon nhw jyst gofyn i fi wneud wyth bar eithaf cyffredinol, ar y thema ‘hip hop is hip hop’,” esboniodd Ed Holden wrth golwg360.
“Dw i yna’n cynrychioli Cymru. Mae o ‘di bod yn broses hir ond proses anhygoel, ac mae ‘na fwy i ddod yn y misoedd nesaf.
“Mi allai hwn fod yn gychwyn symudiad. Mae’n anhygoel bod fi, boi o Ynys Môn, ar y trac!
“Mae ’na sin hip hop yng Nghymru, ond does ‘na ddim lot o siaradwyr Cymraeg yn y sin yna. Os ti’n torri fo lawr i sin rap iaith Gymraeg mae o’n lleiafrifol.
“Felly o feddwl mod i ‘di llwyddo i gael ar hwnna efo KRS-One, mae’n uchafbwynt fy ngyrfa i, dw i ddim yn meddwl nai topio hwnna am ychydig de!”
Gallwch wylio fideo’r gân yma:
Tair blynedd
Fe esboniodd Ed Holden mai drwy gyswllt ffrind y daeth yn ymwybodol o’r prosiect a ddechreuodd yng Nghorea.
“Mae hyn yn mynd nôl tair blynedd, mae o wedi bod yn mynd am oes,” meddai Ed Holden.
“Roeddwn i’n gorfod ail-recordio fy hun yn gwneud y rap cwpl o weithiau, ac roedden nhw ‘di cael problemau hawlfraint ar y trac gwreiddiol.
“Mae’r rapiwr cyntaf ar y trac, San E, yn anferth yn ei wlad ac yn un o’r rhai mwyaf yn y byd hip hop, felly ei drac fo ydi o.
“Doedd y bois wnaeth drefnu’r holl beth ddim yn siarad y Saesneg gorau, felly chwarae teg iddyn nhw am lwyddo i sortio hynna i gyd.
“Ges i e-bost ‘chydig o fisoedd yn ôl yn dweud bod bob dim bron yna ac yn dweud ‘surprise, we’ve got KRS-One on board!’. Ro’n i jyst fel; ‘no we, ydach chi’n seriys’. Mae’n anhygoel.”
Bydd yr holl elw sydd yn cael ei wneud ar y trac yn mynd tuag at elusen UNICEF – rhyw fath o sengl Band Aid-aidd o’r byd rap, yn ôl Ed Holden.
Mae’r trac hefyd wedi denu sylw ehangach, gyda sianel deledu REVOLT y rapiwr P Diddy yn bwriadu ei dangos ar draws y byd.
Ac mae Ed Holden yn gobeithio fod hynny’n dangos amrywiaeth ac apêl ryngwladol cerddoriaeth hip hop, yn ogystal â rhoi Cymru ar y map.
“Mae’r gefnogaeth dwi ‘di gael yn anhygoel,” ychwanegodd y rapiwr.
“Hefyd y ffaith ein bod ni’n dod a lot o wledydd at ei gilydd, ac yn siarad iaith drwy’r gerddoriaeth.”