Llew Evans, sy'n chwarae cymeriad Sion, yn ymarferion 'Cysgu'n Brysur' (llun gan yr Urdd)
Owain Schiavone sy’n gofyn a ydy sioeau cerdd a cherddoriaeth gyfoes yn gallu byw’n gytûn …
Mae’n anodd osgoi’r holl sylw i sioe theatr ieuenctid yr Urdd, Cysgu’n Brysur, yr wythnos yma.
Mae’r cyffro ynglŷn â’r perfformiad sy’n cael ei lwyfannu yn amgylchedd anghyffredin clwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth wedi codi’n raddol dros yr wythnosau diwethaf.
Er nad ydw i’n ffan enfawr o sioeau cerdd fel rheol rhaid dweud bod hwn yn brosiect difyr iawn, yn enwedig gan fod y sioe wedi’i seilio ar ganeuon y grŵp ifanc o Sir Gâr, Bromas.
Dwi’n hoffi Bromas – band ifanc, gyda chaneuon bach da, sy’n cael lot o hwyl wrth fod mewn band. Mae hynny’n eu gwneud yn berffaith felly ar gyfer y sioe yma sydd i bobl ifanc, ac am bobl ifanc.
Roedd perfformiadau cyntaf Cysgu’n Brysur ddoe, a’r sôn ydy bod y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ymlaen llaw ar gyfer perfformiadau heddiw a fory. Dwi’m yn siŵr faint o fynd sydd ar docynnau perfformiadau theatr Cymraeg y dyddiau yma, ond dwi’n tybio bod sel-owt ymlaen llaw yn reit dda!
Gobeithio bod hyn yn adlewyrchiad o’r diddordeb yn y gerddoriaeth cymaint â’r perfformiad theatrig, a dwi’n siŵr bod llwyddiant y prosiect yn hwb mawr i hyder Bromas fel grŵp … er eu bod nhw’n fois reit hyderus (mewn ffordd dda) yn barod.
Cynyddu poblogrwydd
Mi wnes i sôn nad ydw i’n ffan mawr o sioeau cerdd arferol, a dwi’n siŵr y byddai llawer o miwsôs yn troi eu trwyn o glywed y geiriau ‘sioe’ a ‘cerdd’ yn yr un gwynt. Mae rhywun yn tueddu i feddwl am straeon cariad a chaneuon naff, neu am ffilmiau fel High School Musical.
Er hynny, dwi’n credu bod potensial i sioeau cerdd hybu a hyrwyddo’r sin gerddoriaeth Gymraeg, o’u gwneud hi’r ffordd iawn.
Does dim modd gwadu bod ffilmiau fel High School Musical a chyfresi teledu fel Glee yn hynod boblogaidd. Mae’r caneuon sy’n cael eu defnyddio yn gallu dod yn boblogaidd iawn hefyd – mae cyfres fel Glee wedi dod â chaneuon cyfoes i amlygrwydd, a hefyd wedi helpu atgyfodi caneuon hŷn.
Byddai rhai’n dweud bod y cyfyrs yma’n mwrdro tiwns da, ond does dim amheuaeth eu bod nhw’n cynyddu poblogrwydd caneuon.
O weld hyn, dwi’n aml yn gofyn y cwestiwn, tybed oes angen ‘Glee Cymraeg’ arnom ni? Cyfres ddrama ysgafn gyda cherddoriaeth gyfoes, ac ambell hen glasur efallai.
Mae hyn siŵr o fod yn swnio’n naff i’r puryddion cerddorol, ond dim ond ffordd arall o gyflwyno’r gerddoriaeth i gynulleidfa newydd ydy hyn – mae angen sawl ffordd o gael Wil i’w wely.
Dwi’n ofni’n aml fod ein prif gyfryngau Cymraeg ni’n aml yn methu’r grŵp oedran 13 i 16 yna – grŵp oedran anodd iawn i’w dargedu, ond cwbl allweddol wrth i bobl ifanc fagu diddordebau. Dwi ddim yn siŵr os ydy darpariaeth C2 ac S4C ar hyn o bryd yn apelio at y grŵp yma, ac efallai bod angen rhywbeth sy’n cwrdd yn y canol.
Tydi’r syniad o gerddorion cyfoes yn cymryd rhan mewn sioe gerdd ddim yn un newydd – bu Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Heather Jones, criw Edward H Dafis a sawl cerddor arall mewn sioeau poblogaidd. Tybed ydy hynny wedi cyfrannu at eu poblogrwydd hirhoedlog nhw?
Mae gan Bromas rywfaint o ddilyniant yn barod, ond does ganddyn nhw mo’r dilyniant eto i fod yn hedleinar go iawn – sylwer mai pedwerydd ydyn nhw ar lein-yp nos Sadwrn Maes B eleni.
Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld os ydy eu poblogrwydd nhw’n codi’n sylweddol o ganlyniad i lwyddiant Cysgu’n Brysur … fyswn i’n synnu dim petai o.