Gitâr newydd a’r Llydaweg yw dau o’r pethau sydd wedi sbarduno’r gantores  Lleuwen Steffan i greu ei halbwm diweddaraf, Tân.

Mae’r albwm newydd yn bartneriaeth gerddorol gyda’r chwaraewr bas arbrofol o Lydaw, Vincent Guerin.

“Mi brynais i gitâr fendigedig yn 2008 a mawr yw fy niolch i’r gitâr felys yma. Gitâr Martin D17 ydi hi,” meddai Lleuwen Steffan wrth Golwg360.

“Magi yw ei henw hi ac mae hi i’w chlywed ar bob trac. Mae ‘mherthynas efo’r gitâr yn rhoi rhyddid newydd imi. Hi sy’n rhoi syniadau’r caneuon imi.”

Yn ogystal â chanu, mae’n chwarae sawl offeryn ar y gryno ddisg, gan gynnwys drymiau a llestri.

“Roeddwn i’n chwilio am sŵn llanast ers blynyddoedd  . . . Ond mae’n anodd gofyn i ddrymiwr, “Nei di chwarae’n fwy blêr plîs? Yr un fath a thasa chdi’n gwybod dim byd am ddrymio?” meddai.

“Mae’r drymio ar y record yn hollol amherffaith. Dyna’n union o’n i isio.”

Ymhlith yr offerynnau i’w clywed yn Tân, mae gitars, bas dwbl electrig ac acwstig, ukelele, zither, chwibanau trwyn, cwpanau, powlen salad, marblis ac allweddi car.

‘Gweld y byd’

Ar hyn o bryd, mae Lleuwen Steffan yn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Llydaw.

Dywedodd wrth Golwg360 fod y Llydaweg ynsbectol newydd” ar ei  thrwyn ac yn ei galluogi i “weld y byd mewn ffordd arall”.

“Mae hi’n iaith agos-at-y-pridd ac mae harddwch, trwy’r sbectol yma, ym mlerwch amrwd natur. . .  Ma’ hi’n ysbrydoli ‘nghaneuon Cymraeg yn ogystal â ‘nghaneuon Llydaweg.

“Y gan “Tachwedd” er enghraifft . . . Tachwedd yn Llydaweg ydi “Miz Du” sef, yn llythrennol, “mis du” yn Gymraeg.

“Mae ’na enghraifft arall o hyn yn y gan ‘Breuddwydio’. Mae sawl ffordd o ddweud “nos” yn Llydaweg. Un o fy ffefrynnau ydi “kambr ar stered” . . . sef  ‘stafell wely’r sêr’  yn Gymraeg. Mae’n amhosib peidio cael dy danio gan dlysau fel hyn.”

‘Ffeindio’r llwybr’

Dywedodd wrth Golwg360 ei bod hi wedi “recordio tri albwm” ers “Penmon” – ei halbwm diwethaf, yn 2006 – ond nad oedd hi’n teimlo eu bod nhw’n “ddigon da i’w rhyddhau”.

“Dw i’m isio rhyddhau pethau jyst er mwyn rhyddhau pethau. Roeddwn i’n arbrofi . . . yn chwilio am fy sŵn fy hun am wn i, ac mae hi’n anodd ffeindio’r llwybr ar brydiau achos os wyt ti’n ferch, ac mae gen ti lais canu cryf, mae’r busnes yn dueddol o feddwl mai tu ôl i’r microffon yw dy le di.

“Ar y llaw arall mae’n ofynnol i’r canwr / gyfansoddwr gwrywaidd ddeud ei ddeud wrth ei fand a bod mewn llwyr reolaeth o’i fiwsig. Ma’ hi’n dal yn weddol anghyffredin i gantores gymryd rôl flaenllaw yn y cynhyrchu.”

Fe fydd Tân yn cael ei lansio yn Galeri, Caernarfon Nos Sul – 13 Mawrth.