Non Tudur fu’n gweld gwerinwyr hen a newydd wrthi’n y Galeri neithiwr…
Mae Angharad Jenkins wedi gwneud strocen.
Ei syniad uchelgeisiol hi – swyddog brwd y mudiad gwerin Trac – yw 10 Mewn Bws, cynllun sydd wedi bod yn mudferwi ers blwyddyn gron. Deg cerddor gwerin ifanc yn dod at ei gilydd i drin a thrafod hen alawon Cymraeg. A’r wythnos yma fe gawn ni weld ffrwyth eu llafur – a phrynu’r CD – wrth iddyn nhw fynd ar daith drwy Gymru.
Torf fach a ddaeth i noson agoriadol y daith yng Nghaernarfon (on’d yw hi’n hen bryd i selogion nosweithiau cerddorol gydnabod bod canu gwerin yn fath digon parchus ar gerddoriaeth?). Ond fe dybiwn i fod pob-un-wan-jac o’r dorf honno yn cytuno bod arbrawf Angharad wedi bod yn llwyddiant digamsyniol. Mae’n llawer mwy nag arbrawf.
Os yw cyfran bitw o bwrs y wlad yn mynd tuag at brojectau cerddorol, dylai hi fynd i gynlluniau fel 10 Mewn Bws. Roedd y noson yn becyn addysg, yn adloniant, ac yn ysbrydoliaeth mewn un. Yr unig fan gwan – os dyna beth oedd e – oedd bod eisiau iddyn nhw fod yn fwy hyderus ac ymlacio gan eu bod fel arall yn gwbl ddi-fai. Ond roedd eu gwyleidd-dra yn dra hoffus ac mae’n siŵr eu bod ar binnau ar y noson agoriadol. Yn sicr, roedden nhw wedi’u synnu pan safodd y dorf i gymeradwyo ar y diwedd.
Mewn erthygl yn Golwg, Hydref 3, dywedodd Angharad Jenkins taw’r peth anoddaf oedd dewis y deg cerddor ifanc gogyfer y project. Dywedodd hynny eto wrthyf i yn llawn cynnwrf ar ôl y gig, a’i bod yn falch ei bod wedi cyflogi rhywun PR i’w helpu i gribinio’r wlad yn iawn am y deg cerddor dawnus yma. Ie, diolch byth.
Roedd y noson yn chwa o awyr iach. Na, nid chwa ond corwynt. Cyn mynd roeddwn ychydig yn gyndyn i glywed noson o’r hen alawon wedi eu moderneiddio. Mae rhywun wedi diflasu ar y sŵn gwerin gyfoes Seisnig ei naws – er mor safonol y gall fod – sydd wedi treiddio i bob ffidil a llais yr ochr yma o Glawdd Offa, o dan ddylanwad trwm y sin nu-folk a gwyliau poblogaidd fel y Greenman.
Nid dyna a gafwyd. Daeth yn amlwg bod yma ddyfeisgarwch ond hefyd barch o’r mwyaf at y traddodiad gwerin a’r hen benillion gwych yna am gariad, am deulu a gwaith, am fywyd. Mae’r deg yn offerynnwr dawnus yn gyntaf oll – dyna gnewyllyn y peth – ac o ddifrif am eu crefft. Mae hi’n amlwg eu bod wedi dysgu ac elwa o’r wythnos ymchwil a’r trafodaethau gydag arbenigwyr fel fel Roy Saer ac Arfon Gwilym; ac felly hefyd y cyfnodau yn Nhŷ Newydd yn rhannu syniadau a sŵn.
Wrth gwrs, dyw pawb ddim yn gyfarwydd â’r hen alawon, y plygain a Chalennig. Dyna Craig Chapman, y trwmpedwr o Aberdâr, a oedd yn wybodus am fandiau pres a chorau meibion ond yn gwybod fawr ddim am y traddodiad gwerin. Ar y pegwn arall, mae’r ffliwtydd Huw Evans sy’n gallu cyfansoddi caneuon gwerin yn union fel y real thing – dyna bert oedd ei gân ‘Blodau Aberdyfi’ am fachgen a oedd yn gorfod gadael y pentref i gael gwaith ac yna’n clywed bod ei gariad wedi priodi dyn arall.
Dysg a Dawn
Hanner cyfrinach 10 Mewn Bws yw bod enwau’r cerddorion yma yn anghyfarwydd. Cymerwch chi Leon Ruscitto, er enghraifft. Am tua hanner cynta’r set, sylwon ni fawr ddim arno yng nghefn llwyfan, dim ond sylwi ar gorun o gwrls du ar y dryms. Ac yna daeth ei dro ynte. Y gân a ddewisodd oedd ‘Y Gaseg Ddu’ ar ôl iddo fod yn tyrchu trwy archifau gwerthfawr Sain Ffagan yng nghwmni’r enwog Roy Saer – y dyn a fuodd ar dramp am ddegawdau yn recordio’r Cymry yn canu’r hen alawon. I Leon, drymiwr sydd wedi perfformio gydag Alexandra Burke a Steps, mae’r gân syml yma yn mynd yn ôl i wreiddiau’r traddodiad. Mae Leon yn iawn. Mae’r gân am dranc yr hen gaseg druan (‘Fe drigodd yr hen gaseg a’i chalon oedd fel dwy’) yn f’atgoffa o’r gân yr arferai fy nhad ganu i mi, ‘Yr Asyn a Fu Farw (Wrth Gario’r Glo i’r Fflint)’. Daeth ryw lwmp i ’ngwddw yn gwrando arno fe a’r naw cerddor arall yn cyd-ganu hen benillion y pridd.
Ond nid nostalja sydd ar waith. Mae pob un o’r deg yn rhoi eu stamp cyfoes eu hunain ar gân o’u dewis nhw, a’r lleill yn cyfeilio neu’n harmoneiddio. Mor swynol oedd y llif yn nwylo Francesca Simmons! A’r soddgrwth a sŵn drwm yn dirgrynu yn gyfeiliant perffaith i lais Ellen Jordan yn canu penillion Tom Davies am y diboblogi ar yr Epynt.
Yn wreiddiol roedd Craig Chapman wedi meddwl cyfansoddi cân i Garadog, sef Griffith Rhys Jones, yr arweinydd corau sydd wedi ei anfarwoli gyda cherflun yn Aberdâr. Ond ar ôl dod i Dŷ Newydd, daeth i nabod Lleuwen Steffan (a oedd yn rhan o’r cynllun yn wreiddiol ond yn methu â bod ar y daith) a chyfarfod â’i mab bach un oed, Caradog. Dyma fe’n dechrau meddwl pa argraff roedd yr holl stŵr yn ei gael ar blentyn bach – y deg cerddor a’u holl offerynnau – a chyfansoddodd gân offerynnol yn dychmygu hynny. A dyna’r naw arall yn ymuno ag e i chwarae cân freuddwydiol, lawen, yn union fel darlun plentyn bach.
Dyna Gwen Mairi Yorke wedyn: Albanes o St Andrews sy’n siarad Cymraeg (ei mam yn dod o Faesycrugiau ger Llanllwni) ac wedi astudio yn Academi Cerdd a Drama yr Alban ac yn dysgu yn Ysgol Aeleg Glasgow. Trwy gydol y gyngerdd, roedd hi’n sefyll mewn sodlau tal arian yn chwarae’r delyn fach ar stôl. Ei chân hi oedd ‘Pant Corlan yr Wyn’, fersiwn swynol gyda ffliwt a lleisiau yn gyfeiliant.
Yr un mwyaf cyfarwydd i mi oedd Gwilym Bowen Rhys, lleisydd gwritgoch y Bandana a Plu. Serch hynny, efallai taw fe yw’r eithriad y tro yma, yn berfformiwr â gradd dobsarth cyntaf o’r Sin Roc Gymraeg tra bod nifer o’r lleill yn offerynwyr profiadol. Ond mae ei angerdd a’i awydd i ddysgu am y traddodiad gwerin yn amlwg ac roedd yn dda ei gael e yna. Agorodd y gyngerdd gyda’i fersiwn afieithus o ‘Bachgen Ifanc Ydwyf’ (cân a ganodd Meredydd Evans yn y 1950au) sydd eisoes yn hit ar Radio Cymru. Roedd yn gosod naws y gyngerdd ac yn datgan taw ymdriniaeth ddeallus o’r traddodiad gwerin Cymraeg oedd yn ein disgwyl nid ailbobiad eildwym. Gwilym oedd yn cloi’r set hefyd, gyda fersiwn o gân Plygain ‘Deffrwch Benteulu’, mewn arddull a oedd yn f’atgoffa o’r ‘Godfather of Rap’ Gil Scott Heron!
Yr uchafbwynt i mi oedd fersiwn Mari Morgan o ‘Alawon fy Ngwlad’. Twyllodrus oedd delwedd ddiniwed y gantores (a feiolinydd), yn ei ffrog fach lliw blodau menyn a’r band blodau yn ei gwallt. Roedd ganddi feistrolaeth lwyr, a chyfeiliant swynol telyn, mandolin a llif (perfformiad anhygoel gan Francesca Simmons) yn gweddu i’r dim. A’r geiriau yn dweud y cyfan: ‘Mae meibion hen Walia heb golli eu cân… Boed telyn ac awen mewn llwyddiant a bri.’
Dywedodd Arfon Gwilym ei hun ar ôl y gig: “mae pob un ohonon ni wedi dysgu heno.” Fe fydd hoelion wyth y traddodiad wedi’u hysbrydoli gan ddulliau deheuig y criw o ddehongli’r alawon. Ac mi wnes innau sôn ar Twitter y dylai’r ysgolion ddysgu am ein traddodiadau gwerin yn rhan o’r cwricwlwm addysg. Am y tro, mae hi’n ddigon bod yma ddeg cerddor ifanc yn mynd adre’n eu holau i Glasgow, i Aberdâr, i Langollen, ac i Langammarch gyda stôr o wybodaeth newydd am y traddodiad gwerthfawr yma.
* Taith 10 Mewn Bws
Gwener, Hydref 18 – Y Drwm, Aberystwyth
Sadwrn, Hydref 19 – Llangammarch, Powys
Sul, Hydref 20 – Chapter Caerdydd (Gŵyl Sŵn)
***
A gair i gloi am syrpreis arall y noson. I agor y gyngerdd fe gafwyd perfformiad arbennig o dda gan Triawd – grŵp gwerin y ffidlwyr gwych Stephen Rees a Huw Roberts, a mab Huw, Sion Roberts, ar y gitâr. Dyna i chi fachgen dawnus – a golygus tu hwnt, fel ei dad! – sy’n siŵr iawn o fynd ymhell. Fe gawson ein tywys ar wib trwy rai o’n halawon hyfrytaf, ac roedd fersiwn Huw o ‘Llais Ned Pugh’ yn odidog o werinol. Newydd wneud ei DGAU mae Sion ei fab. Gwell iddyn nhw fynd i’r stiwdio recordio yn fuan, cyn i Sion gael ei gipio gan gerddorfeydd gwerin ym mhellafoedd byd sy’n talu yn llawer rhy dda.