Mae gobaith y bydd ailagor sinema yng Nghaergybi fis nesaf yn hwb i ddatblygiadau eraill yn y dref.
Sinema’r Empire fydd yr unig sinema ar Ynys Môn, ac mae’n ailagor ddiwedd Tachwedd wed i Gyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru roi £360,000 at yr achos.
Ers pum mlynedd mae Monwysiaid wedi gorfod teithio i Landudno i’r sinema sawl sgrin Cineworld i weld ffilmiau.
Bydd yr Empire ar ei newydd wedd yn cyflogi wyth o bobl ac yn cynnwys cyfleusterau ychwanegol gan gynnwys caffi , gêm tag laser a chanolfan chwarae i blant ifanc.
Cyngor tref yn falch
Mae Clerc Cyngor Tref Caergybi, Cliff Everett, wrth ei fodd bod yr adeilad a fu ar gau ers pum mlynedd yn ôl, ar agor i bobl y dref unwaith eto.
“Rwy’n falch iawn i ni gael yr arian ar gyfer y datblygiad hwn, nid yn unig am ei fod yn gyfleuster pwysig i’r dref ac i’r ynys, ond gan y bydd hefyd yn creu wyth o swyddi newydd sydd wir eu hangen ar y dref,” meddai.
“O ganlyniad i’r datblygiad hwn mae cwmnïau eraill yn awr yn edrych ar rai o’r siopau gwag yn y dref, felly gobeithio y bydd yn dod a mwy o fusnes i Gaergybi.”
Hwb i’r Stryd Fawr?
Dywedodd llefarydd ar ran DU Construction a fu’n adnewyddu’r adeilad eu bod nhw’n gobeithio y daw rhagor o waith yn sgil ailagor y sinema.
“Y gobaith yw y bydd yn denu enwau mawr yn ôl i Stryd Fawr Caergybi wrth i ganol y dref gael ei adnewyddu,” meddai’r llefarydd.
“Rydym ni’n credu y gallai’r arian sydd ar hyn o bryd yn cael ei wario gan bobl sy’n teithio i Gyffordd Llandudno [ble mae sinema sawl sgrîn] ddod i Gaergybi a helpu busnesau cyfagos.”
Mae’r Cyngor Tref wedi pennu prisiau cystadleuol ar gyfer defnyddio’r seinema, gydag oedolion yn talu £5, a phlant a phensiynwyr yn talu £3 yn unig.
Barn y bobl
Dywedodd Hugh Williams, sy’n byw yng Nghaergybi, ei fod yn pryderu na fydd y cyfleusterau ychwanegol sy’n rhan o’r sinema yn talu eu ffordd.
“Rwy’n poeni na fydd y man chwarae i blant yn llwyddiant, ac efallai yn y pen draw mai’r sinema fydd yr unig beth fydd yn gwneud y prosiect yn sefydlog o safbwynt ariannol,” meddai.
“Er hynny rwy’n bendant yn credu bod yr angen yma am sinema. Serch hynny bydd angen strategaeth farchnata a rheoli da arnyn nhw os yw am fod yn llwyddiant.”
Dywedodd Ffion Roberts, sy’n byw yn y Fali, y bydd yn denu pobl fu gynt yn teithio i’r sinema yn Llandudno.
“Rwy’n meddwl y bydd yn boblogaidd iawn gan mai dyma yw’r unig seinam ar yr ynys,” meddai. “Fe fydd yn rhatach na teithio i Landudno.”
Jamie Thomas