Anthony Hopkins
Bydd yr artist pop Cymreig Malcolm Gwyon yn cynnal arddangosfa o’i waith Celf Bop yn Theatr Mwldan, Aberteifi.
Mae’r gwaith yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn celf swrealaidd. O dan ddylanwad artistiaid pop fel Andy Warhol, mae Malcolm yn creu delweddau cyferbynnedd uchel, graenog o rai o eiconau mwyaf Cymru gyfoes.
Mae’r arddangosfa yn dilyn penderfyniad y Llyfrgell Genedlaethol i brynu dau o’i luniau ar gyfer eu casgliad parhaol, a thaith lwyddiannus o gwmpas Gogledd a Gorllewin Cymru.
Eiconau Cymreig
Bydd yna tua 30 o luniau i’w gweld yn Theatr Mwldan, gan gynnwys cerddorion Cymreig fel Gruff Rhys, John Cale, Katherine Jenkins, Geraint Jarman, Cate le Bon a’r actor Anthony Hopkins.
Ceir hefyd artistiaid a llenorion lleol, fel Aneurin Jones a Dic Jones, a chymeriadau lliwgar fel Dewi Pws a Robbie Savage.
Mae yna luniau hefyd o Ray Gravell a Gary Speed.
Bydd yr arddangosfa yn dechrau ar Chwefror 25 hyd at Ebrill 14.