Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r ffotograffydd Keith Morris o Aberystwyth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ddydd Sadwrn, Hydref 5.
Roedd y ffotograffydd adnabyddus wedi bod ar goll ers dydd Iau (Hydref 3).
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff ar draeth Borth, Ynyslas fore dydd Sadwrn. Dyw’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.
“Mab anwylaf y dref”
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones ar ei chyfrif Twitter: “Yr hollbresennol Keith Morris. Ar y prom, yn y dre’, ym mhob protest a phared. Yn adlewyrchu amrywiaeth lliwgar Aberystwyth yn ei luniau, ac yn eu cyhoeddi i’r byd. Mae meddwl am Aberystwyth heb Keith a’i gamera yn boenus o anodd. Ef oedd mab anwylaf y dref.”
Dywedodd Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore heddiw (dydd Llun, Hydref 7) bod Keith Morris “yn ddyn diwylliedig iawn ac mae archif ei waith yn mynd i fod yn drysor”.
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Aelod Cynulliad, Alun Davies, wedi rhoi teyrngedau hefyd.
“Am newyddion trist ac hynod arw,” meddai Alun Davies. “Roedd Keith yn rhan o Aber ac yn rhan o Gymru. Mae ein holl feddyliau gyda’i deulu ac fe fyddwn ni yn ei golli’n fawr.”
Teyrngedau eraill
Ni fydd hud ei machludoedd yr un fath,
mae’r dre'n fedd, a'i strydoedd
yn un nâd; ei llun ydoedd,
ei hanes hi'n ei lens oedd. #Aberystwyth @KeithMorrisAber pic.twitter.com/H5UMSB6QrL— Annes Glynn (@Yr_Hen_Goes) October 6, 2019
Er yr holl luniau annwyl a hardd
â dynnaist, ac â rannaist di,
y llun annwylaf fydd fyw gyda ni
yw'r un ohonot ti.Nos da, Keith. Cwsg yn dawel. Xx
— Dewi Prysor (@DewiPrysor) October 6, 2019
https://twitter.com/SeimonBrooks/status/1180538192828780544
Fydd #Aberystwyth ddim yr un peth heb Keith Morris. Un o gymeriadau amlycaf a hyfrytaf y dref. Ei wên a’i sgwrs bob amser mor barod a’i gamera. Un o gofianwyr gweledol gorau ein cenedl. Cydymdeimladau dwysaf â’i deulu.
— Gwenno Ffrancon (@GwennoFfrancon) October 5, 2019
Newyddion trist iawn am Keith x Cofio trafod y lluniau eiconig yma gyda fo llynedd – Keith wedi gweld cyfle a wedi tynnu'r camera allan ''dim on 3 ffram saethais ohono, gwaith personol, nid comisiwn''….. eiliadau x #parch #ffotograffydd #artist pic.twitter.com/r2i7TWBhFh
— ankst (@ankstmusik) October 5, 2019
Dal mewn sioc am farwolaeth Keith Morris. Boi clên a chyfeillgar a phroffesiynnol a thalentog. Colled fawr ar ei ôl. Lluniau fel hwn yn Aberystwyth fydd yn y côf am byth! Cydymdeimlad llwyr â'i deulu. pic.twitter.com/apVIWO92Ou
— CHRIS TYWYDD JONES (@CTywydd) October 6, 2019
Gyda'i ddawn aruthrol, mi fase Keith Morris wedi medru gweithio dros y byd i gyd. Ond nath o ddewis aros yn ei filltir sgwar a dathlu ei filltir sgwar a dwi'n ei barchu'n fawr iawn am hynny. Anodd credu ei fod wedi mynd. Trasiedi.
— Angharad Penrhyn (@angharadPJ) October 6, 2019
Mae’n gadael ei wraig Gilly, dwy ferch, Ffion Jac a Sam Medeni, ac un wyr, Dexter.