Mae bardd ac artist o Wynedd wedi bod yn cydweithio â banc bwyd lleol er mwyn creu arddangosfa o weithiau creadigol.

Drwy gydol mis Mehefin, bu’r bardd a’r awdur, Sian Northey, yn fardd preswyl ym manc bwyd Blaenau Ffestiniog, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd yr Eglwys.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gwirfoddoli yn y banc bwyd, gan ysgrifennu am ei phrofiad yno a chynnal sesiynau gyda disgyblion Ysgol y Moelwyn, Ysgol Mannod ac Ysgol Bro Hedd Wyn.

Bu’r disgyblion wedyn yn cydweithio â’r artist o Lanuwchllyn, Mari Gwent, gan baratoi gwaith sy’n ymgorffori’r cerddi.

Mae’r gwaith hwn bellach ar gael i’w weld yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog o’r wythnos hon ymlaen tan ddechrau mis Medi.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gorfforaeth Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion, a’i drefnu gan fenter gymunedol Y Dref Werdd.

“Gwneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol”

“Mae hyn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol a chreadigol o sefyllfa ddigon digalon,” meddai Tecwyn Ifan ar ran y Bedyddwyr.

“Mae hefyd yn weithgarwch sy’n dilyn dysgeidiaeth Iesu Grist i ymateb mewn ysbryd o gariad tuag at bobol yn eu hangen a’u helbulon…

“Ry’n ni fel Bedyddwyr yn ddiolchgar am gydweithrediad cynllun Y Dref Werdd yn Blaenau i drefnu gweithdai creadigol yn yr ysgolion lleol dan arweiniad Sian Northey.”