Mae S4C wedi troi’n felyn heddiw i ddathlu llwyddaint y seiclwr Geraint Thomas yn ras feics Tour de France.

Bydd y Cymro’n cael ei goroni’n bencampwr ar ddiwedd y cymal olaf heddiw, sy’n gorffen ym Mharis.

Y seiclwr o Gaerdydd yw’r Cymro cyntaf erioed i ennill ras y dynion.

Arlwy S4C

Ar ôl ymestyn y darllediad byw o’r ras, mae nifer o lwyfannau’r sianel wedi troi’n felyn i ddathlu, o bosib, y llwyddiant mwyaf erioed i seren chwaraeon yng Nghymru.

Mae logo S4C ar y cyfryngau cymdeithasol wedi troi’n felyn heddiw, gan newid o’r gwyrddlas arferol – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2016, wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Ac mae clipiau byrion o Geraint Thomas yn gwisgo crys melyn arweinydd y ras yn cael eu dangos yn ystod hysbysebion rhwng rhaglenni’r sianel.

Mae S4C wedi bod yn darlledu’r cyfan o Baris – o 3 o’r gloch y prynhawn yma tan 9.30 heno.

‘Anodd rhoi mewn geiriau’

Dywedodd cyflwynydd cyfres Seiclo S4C, Rhodri Gomer, “Mae hi’n anodd rhoi mewn geiriau sut bydd ennill Tour de France yn newid bywyd Geraint Thomas.

“Gwrddes i a Geraint wythnos cyn y daith i ddymuno pob lwc iddo, edrychodd arna’i gan wenu. O’r dechrau hyderus yna, dwi’n credu bod Geraint lan yno fel ffefryn i ennill. Ers hynny, dyw e ddim wedi rhoi un troed o chwith ac wedi cadw ar ei feic a reidio’n berffaith.

“Mae’n anodd rhoi mewn geiriau beth fydd ennill y ras yma yn ei olygu i Geraint ac i Gymru. Dyma fydd y camp fwyaf erioed i unrhyw athletwr o Gymru.”