Bedwyr Willliams yn y seremoni neithiwr
Neithiwr, mewn seremoni yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, enillodd yr artist Bedwyr Williams wobr Ymddiriedolaeth Derek Williams Artes Mundi 7.
Nid dyma oedd y brif wobr o £40,000 – yr artist John Akomfrah, a gafodd ei eni yn Ghana ond ei fagu yn Llundain, gafodd y fraint honno am ei ffilmiau ‘Auto Da Fé’ (2016).
Ond mae’n golygu bydd gwaith Bedwyr Williams, ‘Tyrrau Mawr’ yn aros yng Nghymru, wrth ddod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru.
Artes Mundi yw gwobr fwyaf gwledydd Prydain am gelfyddyd gyfoes ac mae’n digwydd yng Nghaerdydd bob dwy flynedd.
Bwriad Artes Mundi yw ‘cydnabod a dathlu artistiaid cyfoes rhyngwladol sy’n ymgysylltu â’r cyflwr dynol, realiti gymdeithasol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo’. Mae cyfres o ffilmiau John Akomfrah yn rhoi sylw i bobloedd alltud ac yn rhoi llais gymunedau sy’n cael eu diystyru ar hyd a lled y Ddaear.
Barn Chiz
Yn Golwg Rhagfyr 22, 2016, fe roddodd y cerddor Huw Chiswell ei farn ar arddangosfa Artes Mundi – a fydd yn agored tan Chwefror 26 – yng ngholofn adolygu ‘Tri ar y Tro’. Dyma gyfle i ddarllen ei holl ymatebion difyr yn eu cyfanrwydd am y tro cyntaf, lle mae yn canmol gwaith Bedwyr Williams ac yn gofyn pam nad oes gan Gymru ei horiel gelf genedlaethol “bwrpasol” ei hun…
Wedi mwynhau?
“Do, mi wnes i fwynhau yn fawr. Gwibiodd fy amser yno heibio lawer rhy gyflym a bu rhaid prysuro erbyn y diwedd i gyrraed y drws cyn cau. Hoffwn ymweld eto a chrwydro’n fwy hamddenol a baswn yn cynghori unrhyw ddarpar ymwelydd i neilltuo digon o amser.
Beth wnaeth i chi chwerthin neu deimlo’n emosiynol?
“Angerdd ac emosiwn yn mhob cwr. Mae ‘Views of Museum Square’ gan Lamia Joreige, artist o Beirut, yn archwilio agweddau amrywiol ar ryfeloedd Libanus. Paentiadau tyner, meddylgar a cherflun diddorol ar ffurf mowld concrit o dwll a grewyd gan gêl-saethwr mewn murlun Cristnogol yn ninas Beirut. Does fawr o fola-chwerthin ond rhaid crybwyll yr hiwmor cynnil os arswydus hefyd sydd i’w ganfod yn naratif hyfryd Bedwyr Williams i’w waith trawiadol ‘Tyrrau Mawr’.
Pa artistiaid yr hoffech ddysgu rhagor amdanyn nhw a/neu’u gwledydd, a pham?
“Taniwyd fy chwilfrydedd gan brosiect difyr o’r enw ‘Seed Journey’ gan yr artist Amy Franceschini, sefydlydd cydweithfa o’r enw Future Farmers. Wrth ddychwelyd hadau a gludwyd i ogledd Ewrop ganrifoedd yn ol i wlad eu tarddle yn y Dwyrain Canol, mae’r gosodwaith yn cynrychioli rhan fechan yn unig o’r prosiect eang hwn sy’n cymryd ffurf mordaith o genhadaeth ecolegol, gydweithredol o Oslo i Istanbul.
Dywedodd adolygydd y Guardian taw gwaith y Cymro, Bedwyr Williams, ‘Tyrrau Mawr’ yw’r ‘stand-out work of Artes Mundi.’ Ydych chi’n cytuno ag e?
“Mae’n waith prydferth sy’n manteisio ar harddwch naturiol Cader Idris ac yn gosod dinas fodern, sgleiniog yn y tirlun. Defnyddia dechnegau fideo lled-fodern os ‘retro’ erbyn hyn i greu naws unigryw i’r darlun anferth sydd i’w weld ar sgrin enfawr ei osodwaith. Syllwn ar y darlun o’r ddinas hardd ond di-enaid sy’n araf droi o ddydd i nos gan wrando ar ein clustffonau ar ysgrif wych Bedwyr Williams yn ei lais ei hun sy’n traethu neges gynnil, llawn ystyr wnaeth ar brydiau ddeffro ysbrydion George Orwell a Dylan Thomas fel ei gilydd. Pleser yw cael gorwedd ar glustog o wely tra’n mwynhau’r wledd.
Barn ar sut y mae’r gweithiau wedi’u gosod a’u cyflwyno?
“Cyflwynwyd y cyfan mewn ffordd digon hygyrch gyda thywyswyr gwybodus a dymunol oedd fel petaent yn mwynhau rhannu eu gwybodaeth a’u sylwadau goleuedig. Mae gofod yr Amgueddfa Genedlaethol yn hwylus ond oni fyddai’n braf cael mwynhau achlysuron cyffelyb mewn oriel gelf genedlaethol bwrpasol?
Barn am Artes Mundi fel gwobr?
“Gwn y bu beirniadaeth ar y gystadleuaeth yn y gorffennol am fod yn un elitaidd braidd ond mae’n bosib fod her i’r byd celf yn gyffredinol yn y feirniadaeth honno.
Unrhyw wendidau?
“Pe byddai rhaid crybwyll gwendid, baswn yn cwestiynu’r penderfyniad i hollti’r arddangosfa gan esgymuno un artist yn llwyr a’i ddanfon i ganolfan Chapter. Nástio Mosquito druan. Yn eironig (does bosib bwriadol), teitl ei waith yw ‘Transitory Suppository’. Gellid honni fod yma elfen o ledu’r efengyl i ardal arall o’r ddinas ond i finnau, creu dryswch ac anghyfleustra yw’r canlyniad.
Fyddech chi’n argymell pobol i fynd i weld yr arddangosfa?
“Baswn yn argymell i unrhyw un fynd i’w gweld. Mae’n safonol, yn procio’r dychymyg ac yn ei chynnwys rhyngwladol yn ehangu gorwelion. Ni ddaw cyfle i weld yr Artes Mundi am ddwy flynedd arall, sy’n ddigon o reswm i achub ar y cyfle nawr ddywedwn i – os ’mond i orwedd ar glustog tra’n profi ‘Tyrrau Mawr’ Bedwyr Williams.”
- Artes Mundi 2016, Chapter ac Amgueddfa Cymru, Caerdydd, tan Chwefror 26 2017
John Akomfrah enillydd gwobr Artes Mundi