Cario cadair Hedd Wyn o'r Ysgwrn
Mae ‘Cadair Ddu’ Hedd Wyn wedi gadael ei chartref yn Yr Ysgwrn am y tro cynta’ mewn blynyddoedd, a hynny i gael ei thrin gan saer arbenigol yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn, roedd y gadair mewn cyflwr difrifol gyda darnau ohoni wedi breuo, a phwysleisiodd fod rhaid ei thrwsio “rhag iddi fynd yn waeth”.
Fe gafodd y gadair ei chludo gan gwmni arbenigol i weithdy’r saer Hugh Haley yn San Clêr yr wythnos ddiwetha’, arbenigwr ar hen ddodrefn.
Mae gweddill dodrefn Yr Ysgwrn hefyd yn cael eu trin gan y saer, wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri adnewyddu hen gartref Hedd Wyn.
Mae disgwyl y bydd y saer wedi gorffen y gwaith, a’r holl ddodrefn yn eu hôl yn yr Ysgwrn erbyn diwedd mis Mawrth.
Difrod i ddreigiau’r gadair
“Mi oedd darnau o’r gadair wedi dod i ffwrdd dros y blynyddoedd,” meddai Sian Griffiths wrth golwg360, gan esbonio fod difrod sylweddol i’r ddwy ddraig ar freichiau’r gadair.
“Mi oedd Gerald wedi bod yn trio trwsio nhw dros y blynyddoedd efo glud a ballu, ond bydd yr arbenigwr yn awr yn eu datgymalu nhw’n llwyr a’u rhoi nhw’n ôl at ei gilydd,” meddai wedyn.
Esboniodd nad dyma’r tro cyntaf i’r Gadair Ddu adael Yr Ysgwrn, a’i bod wedi cael ei harddangos mewn ambell eisteddfod dros y blynyddoedd. Ond roedd ei chael hi allan o’r parlwr yn dipyn o her, meddai, am fod y gadair yn fwy na ffrâm y drws.
“Mi sylwon ni wedyn fod modd tynnu darn o bren ar waelod y drws i ffwrdd er mwyn cael gwaelod y gadair, sydd fel llwyfan bach, drwyddo,” meddai Sian Griffiths.
‘Cyflwr drwg’
Fe ddywedodd Gerald Williams wrth golwg360 ei fod yn pryderu bod y gadair yn cael ei symud, ond yn ôl Sian Griffiths, “roedd rhaid inni fynd â hi o ’na, neu byddai wedi cael ei difrodi’n waeth ynghanol yr adeiladwyr, ac oedd angen gwneud y gwaith trwsio.
“Mi oedd o’n gam mawr iddo fo ei gweld hi’n mynd,” meddai gan gyfeirio at Gerald Williams.
Ymhlith y dodrefn eraill sy’n cael eu trin mae’r dresel Cymreig, y piano, cwpwrdd deuddarn a’r gwelyau.
“Mi oedd dodrefn y llofftydd i ddweud y gwir mewn cyflwr eithaf drwg, rhai ohonyn nhw wedi datgymalu,” meddai Sian Griffiths.
“Ac er bod creiriau’r gegin yn ymddangos mewn cyflwr iawn, oedd ’na dipyn mwy o waith na beth oedden ni wedi’i ragweld i ddweud y gwir.”