Paratoi'r darn o rew ar gyfer cylch yr Orsedd (Llun: Gwyl Coleridge)
Mae dau artist wedi penderfynu gosod darn o rew un metr ciwbiedig y tu mewn i gylch yr Orsedd er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y capan rhew pegynol yn toddi.
Yr artistiaid ydy RM Parry a Chris Glynn, a nhw hefyd ydy cyfarwyddwyr creadigol gŵyl Coleridge, sydd wedi bod ar daith ar draws Cymru ers mis Mai.
Fel rhan o’r daith, maen nhw wedi bod yn dilyn taith y bardd Samuel Taylor Coleridge a roddodd y gorau i’r Brifysgol yng Nghaergrawnt gan deithio o amgylch Cymru yn 1794 i ddysgu mwy am y wlad.
Mae’r ŵyl yn gorffen yn Y Fenni’r wythnos hon, gyda chyfle i weld y darn o rew ymysg meini’r orsedd lle mae disgwyl iddo doddi’n araf yn ystod y 36 awr nesaf.
Bwriad yr arddangosfa, yn ôl yr artistiaid, ydy ennyn pobl i archwilio sut dylai Cymru fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Bydd ffilm gan yr artist Ifor Davies hefyd yn cael ei harddangos, sef Pyrogenesis, ynghyd â cherddoriaeth gan Rhodri Viney.