Mae’r artist Wynne Melville Jones wedi gwneud darlun i dalu teyrnged i’r “Tregaroniaid a’r Cardis” am eu brwdfrydedd wrth groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’w tref fach, a hynny “mewn cyfnod anodd a heriol”.

Cafodd ei ysbrydoli i baentio ‘Darlun y Cloi’, sydd yn cael ei arddangos yn ffenestr Siop Rhiannon ar sgwâr y dref, ar ôl darllen y gerdd ‘Cywydd y Cloi’ gan Gwenallt Llwyd Ifan, un arall o fechgyn Tregaron.

Mae wedi paentio geiriau sawl llinell o’r cywydd yn y darlun, fel ‘Tregaron cartre geiriau’, ‘Tregaron tirion wy ti’, ‘Ar lan y gors bu gorsedd’, a ‘Tregaron llawn trugaredd’.

Hefyd yn y llun mae delweddau sy’n gysylltiedig â’r brifwyl yn Nhregaron, fel aelodau’r Orsedd yn ymgynnull, y Gadair a gynlluniwyd gan Rees Thomas, Cylch yr Orsedd ym Mrynheulog a gafodd ei greu gan ffermwyr lleol, a thirlun Tregaron yn y cefndir.

“Do’n i erioed wedi breuddwydio y byddai’r Eisteddfod yn dod i Dregaron – roedd e y tu hwnt i amgyffred,” meddai’r artist wrth golwg360.

“Ond fe ddangosodd Tregaron sut oedd trefnu Eisteddfod. Mae pobol yn dal i gyfeirio ati fel yr orau sydd wedi bod.

“Ac fel yr oedd Tregaron wedi ymateb – un wedi troi gardd yn dafarn, un arall yn gwerthu waffls drwy’r ffenest.

“Mae’r llun yn deyrnged i bobol Tregaron, ac i’r Cardis.

“Roedd gymaint o rwystrau yn y broses o drefnu’r Eisteddfod, ond i feddwl ei fod wedi bod yn achlysur mor gofiadwy… Roedd e yn wirioneddol wych.”

‘Heriol’

Mae’r priflythrennau ‘ISTEDD’ sydd yng nghanol y darlun yn cyfeirio at rywbeth a ddigwyddodd yn ystod wythnos y brifwyl ar ddechrau mis Awst.

Cyn yr Eisteddfod, roedd llythrennau coch Hollywoodaidd ‘EISTEDDFOD’ wedi cael eu gosod mewn cae ar lethr uwchben y Maes.

Ar ôl rhai diwrnodau o’r ŵyl, diflannodd y llythrennau E F O D, gan adael ISTEDD ar ôl.

“O bosib mewn gweithred o fyrgleriaeth neu, yn fwy tebygol, fel pranc mentrus gan un o adar Tregaron,” meddai’r arlunydd.

“Mae wedi bod yn eitha’ heriol i fi achos dw i erioed wedi gwneud llun fel yna o’r blaen.

“Yn fy lluniau i fel rheol mae yna ryw stori fach y tu ôl i’r llun, ond gyda hwn ro’n i’n dod â lot o storis gwahanol mewn i un llun.”