Mae cyfarwyddwr y ffilm Love Actually yn dweud bod diffyg amrywiaeth yng nghast y ffilm gafodd ei rhyddhau yn 2003 yn gwneud iddo deimlo “braidd yn dwp” erbyn hyn.

Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad â Diane Sawyer i ABC yn yr Unol Daleithiau, ac ar drothwy dangosiad arbennig o’r ffilm yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd i gyfeiliant cerddorfa fyw heno (nos Iau, Rhagfyr 1).

Dim ond un actor du, Chiwetel Ejiofor, sydd yn rhan o’r cast ond cafodd un olygfa’n serennu pâr hoyw, Anne Reid a Frances de la Tour, ei dileu cyn rhyddhau’r ffilm.

Ac mae camau wedi’u cymryd yn y ddau ddegawd ers rhyddhau’r ffilm i gynyddu nifer yr actorion yn y diwydiant sydd â nodweddion sydd wedi’u gwarchod.

“Mae yna bethau y byddech chi’n eu newid,” meddai Richard Curtis.

“Ond diolch i Dduw, mae’r gymdeithas yn newid.

“Mae fy ffilm yn bownd o deimlo fel pe bai wedi dyddio mewn rhannau.

“Mae’r diffyg amrywiaeth yn gwneud i fi deimlo’n anghyfforddus a braidd yn dwp.

“Mae yna’r fath gariad anghyffredin sy’n digwydd bob munud mewn cynifer o ffyrdd, yr holl ffordd o amgylch y byd, ac mae’n gwneud i mi ddifaru nad yw fy ffilm yn well.”

Y ffilm

Bydd y ffilm lled-Nadoligaidd yn dathlu’r ugain y flwyddyn nesaf, ac roedd Richard Curtis yn siarad mewn rhaglen ddogfen sy’n edrych yn ôl ar y ffilm ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae’r ffilm yn adrodd cyfres o straeon serch, cyfeillgarwch a theuluol dros gyfnod y Nadolig.

Er i’r ffilm gael ymateb cymysg, fe gafodd dderbyniad arbennig ymhlith gwylwyr, gan gynhyrchu swm o $247m.

Cafodd enwebiadau ar gyfer tair gwobr BAFTA a dwy wobr y Golden Globes, ac fe ddaeth yn ffefryn adeg y Nadolig bob blwyddyn.