Mae artistiaid o bob rhan o wledydd Prydain sydd ag anableddau yn cynnal diwrnod o weithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw (dydd Mercher, Mehefin 17) i ddathlu amrywiaeth gynhwysol ac anableddau.

Bydd y gweithgareddau yn cael eu harwain gan artistiaid sy’n rhannu eu gwaith ar-lein, gan ganolbwyntio ar Twitter, Instagram a Facebook, gan ddefnyddio’r hashnod #WeShallNotBeRemoved ac #EndAbleism.

Mae’r ymgyrch wedi’i dylunio i godi ymwybyddiaeth o’r cynnydd yn yr anghydraddoldeb mae pobol ag anableddau sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yn ei wynebu oherwydd y pandemig, gan fod llawer o artistiaid ag anableddau yn wynebu gorfod ynysu’n hirdymor ac yn colli incwm o ganlyniad.

Mae’r ymgyrch wedi’i threfnu gan y sefydliad newydd Cynghrair Celfyddydau Anabledd y Deyrnas Unedig, #WeShallNotBeRemoved, ac mae’r gynghrair yn ymateb brys sy’n cael ei arwain gan bobol ag anableddau ar gyfer pobol ag anableddau sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng ngwledydd Prydain.

Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae cwmnïau theatr ar gyfer pobol ag anableddau dysgu a phobol fyddar.

Diogelu ac amddiffyn

Yn ddiweddar, anfonodd y gynghrair lythyr agored at Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Gwladol tros Ddiwylliant yn San Steffan, ynghyd â gweinidogion diwylliant gwledydd datganoledig Prydain, ar ran 150 o artistiaid ag anableddau ac arweinwyr diwylliannol.

Mae nhw’n galw ar y llywodraeth i ddiogelu ac amddiffyn dyfodol y celfyddydau ar gyfer pobol ag anableddau yng ngwledydd Prydain o ganlyniad i Covid-19, ac i sicrhau bod adnewyddu ac adfer y sector diwylliannol yn cynnig mwy o fynediad a chynrychiolaeth.

“Rydyn ni eisiau dangos undod a chefnogaeth i bobol ag anableddau sy’n wynebu dyfodol heriol iawn oherwydd y pandemig trwy rannu tapestri cyfoethog ein gweithiau celf, i godi ein llais, ein talent a’n gwytnwch,”  meddai’r cerddor ac ymgyrchydd John Kelly.