Fydd cylchgrawn Y Stamp ddim yn cymryd rhan yn Tafwyl eleni ar ôl beirniadu “diffyg gweladwyedd pobol o liw”.
Daw datganiad y cylchgrawn yn dilyn sawl wythnos o brotestiadau a thynnu sylw at hawliau pobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru, gwledydd Prydain ac ar draws y byd yn dilyn marwolaeth George Floyd, dyn croenddu ym Minneapolis, dan law’r heddlu.
Roedd Y Stamp ymhlith nifer o sesiynau oedd wedi cael eu trefnu fel rhan o ddigwyddiad sydd wedi’i symud i lwyfannau ar-lein yn sgil y coronafeirws.
Bydd Tafwyl eleni’n ddigwyddiol rhithiol fydd yn cael ei ddarlledu ar y we o Gastell Caerdydd ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 20).
Datganiad
“Yn anffodus, ni fydd cylchgrawn a chyhoeddiadau’r Stamp bellach yn cymryd rhan yn Nhafŵyl eleni,” meddai datganiad ar dudalen Twitter Y Stamp.
“Fel golygyddion, roeddem yn bryderus am ddiffyg gweladwyedd pobol o liw ar boster yr ŵyl; a bod y digwyddiadau hynny oedd yn rhoi llwyfan iddynt gan fwyaf yn ymwneud â thrafod eu profiadau fel pobol o liw, yn hytrach na normaleiddio eu presenoldeb trwy holl weithgareddau’r ŵyl.
“Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod dyrys a heriol i drefnu digwyddiad o’r fath, ond ein teimlad oedd y gellid bod wedi ymdrechu at well lefel o gynwysoldeb ac yng ngolau ymgyrch BLM [Black Lives Matter], i feddwl am sut y gallai Tafwyl newid ac esblygu i gynnwys pobol o gefndiroedd amrywiol ar ei holl lwyfannau.
“Rydym yn falch o gael ar ddeall y bydd trefnwyr Tafwyl yn rhyddhau datganiad yn fuan yn datgan eu cefnogaeth i ymgyrch BLM.
“Fodd bynnag, nid oeddem yn fodlon gydag ymateb Tafwyl o ran mynd ati mewn ffyrdd ymarferol i fynd i’r afael â bod yn ŵyl holl-gynhwysol nawr ac yn y dyfodol.
“Ar adeg gythryblus lle mae hiliaeth yn fyw ac yn (af)iach yn ein cymunedau, teimlwn ei bod yn bwysig sefyll dros y newidiadau hyn all gryfhau ac iacháu cymdeithas.
“Pwysleisiwn nad yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd.
“Bu’r trafodaethau â threfnwyr yr ŵyl yn rai buddiol, ond nid ydynt wedi dwyn ffrwyth yn y modd yr oeddem wedi ei obeithio, a rheidrwydd felly yw cadw at yr egwyddorion sydd wrth graidd Y Stamp.
“Dymunwn y gorau i Fenter Caerdydd ar ddiwrnod Tafwyl, gan edrych ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol.”
Herio’r tîm golygyddol
Yn dilyn eu datganiad, mae’r Stamp wedi ymateb ar Twitter i sylw sy’n nodi mai pobol â chroen gwyn yw aelodau eu tîm golygyddol.
“Mae’r Stamp yn fudiad gwirfoddol, annibynnol sydd ddim yn derbyn ceiniog o arian cyhoeddus,” meddai wedyn.
“Rydym yn llwyddo i blatfformio awduron/artistiaid BAME yn ein rhifynnau, ac mewn digwyddiadau byw (e.e. Hunan-Iaith) yn ddiweddar; fodd bynnag, wastad yn dysgu ac anelu i wella.
“Does gan y Stamp ddim llawer o adnoddau i’w defnyddio i ymladd hiliaeth systemig – un o’r unig adnoddau sydd gennym yw’r gallu i ddal sefydliadau mawrion yn atebol.
“Fel tîm gwirfoddol, does yr un ohonon ni yn cael ein talu i ymateb i sylwadau bad faith ar gyfri Twitter; ni fyddwn yn ategu mwy at y datganiad gwreiddiol. Diolch.”
Ymateb Tafwyl
Mae Tafwyl wedi ymateb gan ddweud eu bod nhw’n “parchu penderfyniad Y Stamp”.
“Rydym yn parchu penderfyniad Y Stamp i herio sefydliadau, ond mae adlewyrchu diddordebau eang cynulleidfaoedd gan gynnwys siaradwyr Cymraeg BAME mewn modd cynhwysol yn flaenoriaeth i Menter Caerdydd, ac wedi bod yn rhan annatod o Tafwyl bob blwyddyn,” meddai llefarydd.
“O ran rhaglennu’r arlwy eleni, mae wedi bod yn broses dra gwahanol i’r arfer. Bu’n rhaid cynllunio o fewn cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â COVID-19, gyda phwyslais mawr ar iechyd a diogelwch a gweithredu’n ddiogel.
“Er hyn, rydym yn falch bod Tafwyl wedi llwyddo i gynnwys cynrychiolaeth BAME fel rhan o arlwy’r ŵyl ar draws ardaloedd Bwrlwm, Llais, Marchnad ac Ysgolion.
“Mae Menter Caerdydd hefyd wedi ychwanegu cwpwl o sesiynau penodol yn trafod a chefnogi’r ymgyrch BLM, gan ddefnyddio platfform yr ŵyl i addysgu ein cynulleidfa o’r anghyfiawnderau.
“Mae datganiad o gefnogaeth i’r ymgyrch BLM i’w weld ar wefan Menter Caerdydd: https://bit.ly/2UE0LC0.”