Hiraeth, undod, cymuned, perthyn, lle, colled, a chynhesrwydd – dyma rai o’r teimladau sy’n cael eu cyfleu yng ngwaith argraffu newydd yr artist Marian Haf, sy’n byw yn Ffair Rhos ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Trwy eiriau caneuon cyfarwydd, emynau a hwiangerddi ei phlentyndod, mae hi’n plethu’r geiriau gyda phatrymau’r hen gwiltiau traddodiadol a’u gwasgu ar bapur.
Mae’r geiriau adnabyddus – ‘ar lan y môr’, ‘cerrig yn slic’, ac ‘Arglwydd, dyma fi’ – i’w gweld y tu ôl i batrymau a motiffau’r hen gwiltiau.
Anifeiliaid, byd natur ac atgofion o’i phlentyndod yng nghefn gwlad yn Lledrod, rhwng Tregaron ac Aberystwyth, sy’n ysbrydoli ei gwaith.
Bu’n dilyn gradd mewn paentio yng Ngholeg Celf Cheltenham gan raddio yn 2004 – ond mae wedi dysgu’r grefft o argraffu ar ei liwt ei hun.
Fe ddechreuodd yn 2011 ar ôl ymuno a grŵp lleol, ‘Printers in the Sticks’ yn Ystrad Meurig.
Nawr bod ei phlant ychydig yn hŷn, mae hi wedi cael mwy o amser i ddatblygu’r grefft ac wedi arddangos ei gwaith drwy Gymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cau’r orielau
Ond fel nifer o arddangosfeydd eraill yn sgil y coronafeirws, bu’n rhaid dod ag arddangosfa o waith Marian Haf yn Oriel Mission yn Abertawe i ben yn ddisymwth, a chanslo arddangosfa o’i gwaith yn Oriel Jays yn Nhregaron.
Dathliad o waith argraffu pedwar artist o Geredigion oedd bwriad yr arddangosfa 4 Points yn Oriel Jays – yn ogystal â Marian Haf, fe fyddai wedi bod yn llwyfan i waith gan Charlotte Baxter, Samantha Boulanger, a Gini Wade.
Ond gyda drysau’r orielau bellach wedi cau, mae’n gyfnod anodd i’r artist sy’n fam i dri o blant naw, wyth a phump oed, ac mae’n rhaid ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd cynulleidfa, meddai.
“Mae’n gyfnod od iawn ar hyn o bryd. Dw i fel arfer yn cael incwm cyson o’r arddangosfeydd yn yr orielau. Trio gwerthu’r gwaith yma ydy’r unig ffordd sy gyda ni ar hyn o bryd o ennill bywoliaeth. Ond mae’n rhaid bod yn bositif ac mi fydda i yn rhoi fy ngwaith o’r arddangosfa ar Etsy,” meddai.
Instagram @marianhaf
Facebook @marian.haf.artist