Mae un o ddigrifwyr amlyca’ Cymru yn dychwelyd i’w milltir sgwâr nos Sadwrn, i gynnal noson arbennig o gomedi i godi arian at achos da.
Ac mae Kiri Pritchard-McLean yn pwysleisio bod noson ‘Gisda Giggles’ yng nghanolfan Pontio, Bangor, yn fwy na dim ond cyfle i godi arian i glwb ieuenctid i bobol ifanc LGBT+.
Mae hi am godi ymwybyddiaeth am y clwb – yr unig un o’i fath yn y gogledd – fel bod pobol ifanc LGBT+ yr ardal yn gwybod bod rhywle iddyn nhw fynd.
Yn perfformio sioeau stand-yp ers deng mlynedd, fe gafodd Kiri Pritchard-McLean flwyddyn gofiadwy’r llynedd gan ymddangos ar Have I Got News For You a Live at the Apollo ar y BBC.
A thros y Dolig roedd hi yn un o westeion y digrifwr enwog Frankie Boyle ar ei raglen Frankie Boyle’s New World Order.
Un o Fôn
Fe gafodd y ddigrifwraig 33 oed ei magu ar fferm yn Llanbedrgoch ger Benllech ym Môn, ac mae hi’n falch o gael helpu Gisda, elusen yng Nghaernarfon sy’n helpu pobol ifanc 16 i 25 oed sy’n profi anawsterau.
Mae hen ffrind ysgol Kiri Pritchard-McLean yn cynnal y clwb i bobol ifanc LGBT+, sy’n cynnig gofod saff i lesbiaid, hoywon, y deurywiol a’r trawsryweddol gyfarfod am sgwrs.
Pan glywodd hi am y clwb, roedd Kiri Pritchard-McLean yn awyddus i helpu arian a chodi ymwybyddiaeth, fel bod mwy o bobo ifanc LGBT+ y gogledd orllewin yn gwybod bod y gwasanaeth ar gael.
“Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig, yn ogystal â chodi arian, i godi ymwybyddiaeth bod y clwb yn bodoli ar gyfer pobol gogledd Cymru…
“Hefyd, os oes yna 400 o bobol yn troi fyny ar gyfer noson gomedi yn Pontio sy’n cefnogi elusen LGBT… mae yn dangos bod yna bobol strêt sydd yn cefnogi pobol LGBT, a’u bod nhw yn malio amdanyn nhw. Mae hynny yn rhan fawr o’r gig.”
Joe Lycett ym Mangor
Mae sawl trydarwr wedi synnu bod Kiri Pritchard-McLean wedi medru denu’r digrifwr Joe Lycett i berfformio yn ‘Gisda Giggles’ nos Sadwrn.
Dyma un o enwau mwya’r byd comedi Prydeinig sy’n wyneb cyson a direidus ar y teledu. Roedd ei sioe stand-yp, I’m About to Lose Control And I Think Joe Lycett, ar y BBC dros y Dolig.