Dylai “pob gwleidydd” wrando ar albwm gyntaf y rapiwr Stormzy, yn ôl Aelod Cynulliad Ynys Môn.

Cafodd Gang Signs and Prayer ei chyhoeddi yn 2017 gan saethu i frig y siartiau, a bu’n gyfrifol am boblogeiddio cerddoriaeth grime.

Mae rapwyr grime yn aml yn trafod trais, serch, a chaledi bywyd dinesig Llundain; a bellach mae wedi dod i’r amlwg bod Rhun ap Iorwerth yn edmygu’r math yma o gerddoriaeth.

“Wnes i wrando ar albwm Stormzy, Gang Signs and Prayer, yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf y bore yma,” meddai mewn neges ar Twitter. “Dylai pob gwleidydd wneud hynny.

“Gwrandewch arno – gwleidyddiaeth ydyw. Bywyd, trallod, cymuned, teulu, tlodi, gobaith, anobaith, cariad, grit, bod yn benderfynol, a llawer mwy. Yn amlwg, mae’n ffrwydro’r meddwl yn gerddorol hefyd.”

Ymatebion

Ymhlith y rheiny sydd wedi ymateb i’r neges a rhannu eu hoffter o Stormzy mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett; a chyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn yr Etholiad Ewropeaidd, Carmen Smith.

“Rhun ap Grime!” meddai un arall ar twitter, tra bod un arall wedi rhannu neges chwareus yn awgrymu bod Rhun ap Iorwerth yn ceisio bod ar yr un donfedd â’r genhedlaeth iau.

Stormzy

Dyw’r byd gwleidyddol ddim yn estron i Stormzy, neu Michael Ebenazer Kwadjo Omari Owuo Jr.

Bu’n frwd o blaid Jeremy Corbyn pan geisiodd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, ac mae wedi bod yn hynod feirniadol o Boris Johnson, y Prif Weinidog.

Mae wedi beirniadu ymateb y Llywodraeth i drychineb Tŵr Grenfell, a thaniodd ffrae rhyngddo ef a Michael Gove, y gwleidydd Ceidwadol, y llynedd.

Mi ymwelodd Stormzy â siop recordiau yng Nghaerdydd yr wythnos hon gan ddenu miloedd.