Mae un o leisiau amlycaf Cymru wedi canmol Tafwyl a’r ffaith iddi lwyddo i apelio at Gymry di-Gymraeg y brifddinas.

Cafodd yr ŵyl Gymraeg ei chynnal am y tro cyntaf yn 2006 ym maes parcio tafarn y Mochyn Du – Brewhouse and Kitchen yw enw’r tafarn bellach – yng Nghaerdydd.

Ond dros y blynyddoedd mae wedi tyfu a’r llynedd bu 40,000 yno, ac eleni eto mi fydd yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd gan ddenu miloedd.

Mae’r gyflwynwraig Beti George yn byw yng Nghaerdydd, ac mae’n canmol trefnwyr Tafwyl am ehangu apêl yr ŵyl.

“Mae’n dod â Chymry Cymraeg ynghyd, ond mae hefyd wedi ymestyn yn awr i bobol Caerdydd,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n rhyfeddol faint o’r rheiny sydd yn dod erbyn hyn. Un peth [pwysig] amdano fe yw bod y cwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond eto mae’n apelio at bobol Caerdydd.

“Mae hynny’n ardderchog. Does dim byd yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld rhywbeth fel hyn yn tyfu.”

DJ Beti George

Bydd Tafwyl yn cael ei gynnal o Fehefin 21 i Fehefin 23, ac mae’n debyg y bydd Beti George ei hun yn DJio ar y dydd Sul.

Mae Beti George yn bennaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru.