Yn ôl adroddiad newydd, mae tua hanner cerddorion gwledydd Prydain wedi cael eu heffeithio’n warl gan Brexit.
O ganlyniad, mae Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion yn galw ar y llywodraeth i warchod eu rhyddid i symud, neu greu fisa arbennig ar eu cyfer nhw.
Mae bandiau a chantorion yn dibynnu ar deithio Ewrop ar gyfer gigs a gwyliau i gynnal eu bywoliaeth.
65% yn pryderu
“Mae angen i’r Llywodraeth sicrhau bod hawliau i symud yn rhydd yn cael eu cadw ar gyfer cerddorion,” meddai Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.
Dywed eu hadroddiad bod 50% wedi eu heffeithio gan Brexit a bod 65% yn dweud bod trafferthion teithio i wledydd Ewropeaidd yn bryder iddyn nhw.
Fe all y diffyg rhyddid yma gael effaith pellach ar economi gwledydd Ewrop yn ei gyfanrwydd hefyd.
Mae o gwmpas 60% yn poeni y byddai cludo offerynnau ac offer yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gyfyngu, gan arafu teithiau ac effeithio ar archebion.