Bu farw’r cynllunydd ffasiwn, Karl Lagerfeld.
Roedd yn un o enwau mawr y byd ers dros gyfnod o 36 blynedd, yn 85 oed, ac wedi bod yn sâl am gyfnod byr. Fe fydd yn cael ei gofio am ei greadigaethau clasurol a moethus.
Fe ymunodd â label Chanel pan oedd hwnnw ar ei liniau ac yn “gysglyd” ei gynlluniau, gan gyflwyno’r ffrog glasurol mewn nefi blŵ a anadlodd fywyd newydd i’r brand.
Ymlith ei ddyfyniadau enwocaf y mae, “Cynllunio ydi anadlu, felly os na alla’ i anadlu, rydw i mewn trafferth”.
Mae cynllunwyr eraill wedi bod yn rhoi teyrngedau iddo ar-lein, yn cynnwys Henry Holland, Donatella Versace a Victoria Beckham.