Bydd arddangosfa newydd blwyddyn o hyd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fory [5 Mai], sy’n edrych ar rôl merched mewn ffotograffiaeth – y tu ôl ac o flaen y lens.
Mae oriel Merched a Ffotograffiaeth yn dod â gwaith ffotograffwyr benywaidd ynghyd, o’r arloeswyr cynnar Mary Dillwyn, y ffotograffydd benywaidd cyntaf o Gymru a’i nith Thereza Mary Llewelyn.
Bydd hefyd yn edrych ar waith tynwyr lluniau cyfoes fel Chloe Dewe Mathews, Bieke Depoorter a Clémentine Schneidermann.
Bydd dwy ran i’r arddangosfa – Merched a Ffotograffiaeth: Tu ôl i’r Lens, fydd yn rhedeg rhwng 5 Mai a 11 Tachwedd, a Merched a Ffotograffiaeth: O flaen y Lens, fydd yn digwydd rhwng 1 Rhagfyr a 9 Mehefin 2019.
Yn ogystal ag agweddau eraill, mae disgwyl i’r ail ran edrych ar y ffordd mae ffotograffiaeth wedi camddarlunio merched, drwy eu troi’n wrthrychau.
Mae’r arddangosfa wedi’i threfnu i gyd-fynd â chanmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod dros 30 oed am y tro cyntaf.
Gwaith menywod “heb dderbyn yr un gefnogaeth”
“Bu merched yn arbrofi ac yn arloesi gyda ffotograffiaeth ers i’r cyfrwng gael ei ddyfeisio ym 1839,” meddai Janice Lane o Amgueddfa Cymru.
“Yn hanesyddol, fodd bynnag, nid yw eu gwaith wedi derbyn yr un gefnogaeth, sylw a dealltwriaeth â gwaith dynion.
“Yn unol â’i draddodiad o ffeirio printiau, mae Merched a Ffotograffiaeth: Tu ôl i’r Lens yn cynnwys nifer o luniau y mae David Hurn wedi’u rhoi i’r Amgueddfa yn ddiweddar.
“Mae ei gasgliad wedi cael effaith sylweddol ar nifer yr artistiaid benywaidd gaiff eu cynrychioli yn y casgliadau ffotograffig, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei rodd arbennig.”