Elin Rhys yw enillydd Gwobr John Hefin 2023.
Caiff y wobr ei rhoi’n flynyddol gan Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin er cof am y cynhyrchydd a chyfarwyddwr fu farw yn 2012, ac i gydnabod oes o gyfraniad i’r byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Dechreuodd Elin Rhys ei gyrfa fel newyddiadurwraig cyn sefydlu cwmni Telesgôp yn 1993.
Cafodd ei magu yn Sir Benfro, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin cyn graddio o Brifysgol Abertawe a mynd yn ei blaen i ddilyn gyrfa fel gwyddonydd.
Aeth i fyd darlledu yn 1984, gan gyflwyno rhaglenni gwyddoniaeth i S4C yn ei dyddiau cynnar.
Mae hi hefyd wedi cynhyrchu rhai o raglenni dogfen a chyfresi mwyaf poblogaidd y sianel.
Yn ddiweddar, cafodd ei phenodi’n Gymrawd gan y Gymdeithas Ddysgedig.
Mae hi’n briod â’r cyflwynydd Richard Rees, ac mae eu merch Ffion hefyd yn gweithio i Telesgôp.
Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae’r darlledwyr Euryn Ogwen Williams, Arfon Haines Davies a Beti George, a’r cyfarwyddwr Endaf Emlyn.