Fe fydd cyfres newydd sbon yn lansio ar S4C yr wythnos nesaf, ac yn “torri tir newydd” wrth ymdrin â phroblemau iechyd meddwl pobol ifanc.
Fe fydd y ddrama newydd, Bex, yn trafod pob math o anawsterau, gan gynnwys galar, gorbryder, dysmorffia’r corff, ac Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).
Y gobaith yw dangos i bobol ifanc fod siarad yn agored am faterion iechyd meddwl yn gallu gwneud lles iddyn nhw wrth ddod dros y rhwystrau hynny.
Yn chwarae’r brif ran mae’r actores Rebecca Hayes o Gaerdydd, a hithau’n adnabyddus am actio yn y West End ac mewn dramâu fel Bang a 35 Awr.
Gydag wyth pennod yn y gyfres newydd, fe fydd y cyntaf yn cael ei darlledu nos Fawrth (Mawrth 22) am 6:30yh.
‘Pwysig i bobol ifanc’
Ar hyn o bryd, mae Rebecca Hayes yn ymddangos mewn fersiwn lwyfan o’r nofel glasurol Americanaidd To Kill a Mocking Bird.
Dyma’r tro cyntaf erioed iddi berfformio mewn sioe neu raglen ar gyfer plant.
“Y rheswm i mi benderfynu ei gwneud oedd y byddwn wedi bod wrth fy modd pe bai rhaglen fel hon ar gael pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn delio â’r holl bethau roedd rhaid i fi ddelio â nhw yn fy mywyd a bywydau fy ffrindiau,” meddai.
“Mae wedi dangos i mi nad yw’n rhywbeth i fod ag ofn neu gadw’n dawel yn ei gylch.
“Rwyf wedi dysgu pethau nad oeddwn i’n gwybod llawer amdanyn nhw hefyd a allai fod wedi fy helpu i adnabod y problemau hynny mewn pobol eraill.
“Mae’n bwysig i bobol ifanc weld pethau fel pyliau o banig, gorbryder, ffobiâu ac ati yn digwydd a bod modd byw gyda’r materion hyn.”
‘Annog i siarad’
Eglur Rebecca Hayes fod cymeriad Bex yn ymddangos i blant sydd angen ei chymorth.
Mae hynny’n cynnwys un sydd wedi colli ei chwaer i ganser, un sy’n dioddef o orbryder difrifol, a rhai sy’n dioddef o OCD.
“Mae Bex yn dangos i bobol ifanc sut i siarad â rhywun, i rannu eu teimladau ac i wybod eu bod nhw’n gallu helpu,” meddai.
“Mae’n ymweld â nifer o blant sy’n dioddef o faterion amrywiol yn ymwneud â’u hiechyd meddwl ac yn eu hannog i siarad â hi a gydag eraill.”
Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu materion iechyd meddwl yn enwedig ymhlith plant a phobol ifanc.
“Ond mae hynny wedi arwain at fod yn fwy agored a mwy o drafod ac mae pobol ifanc nawr yn credu bod ganddyn nhw rywun y gallan nhw siarad â nhw am eu hanawsterau, eu ffobiâu a’u problemau,” meddai wedyn.
‘Heriol ond yn realistig’
Mae’r cwmni Ceidiog, sy’n cynhyrchu Bex, wedi ennill llawer o wobrau BAFTA am eu rhaglenni plant yn y gorffennol.
Dywed Nia Ceidiog, sy’n arwain y cwmni, fod y rhaglen wedi’i hanelu at blant rhwng wyth a 12 oed, ond mae hi’n gobeithio y bydd rhieni yn gwylio gyda’u plant fel eu bod nhw’n trafod pynciau iechyd meddwl yn agored â’i gilydd.
“Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu am 6.30 yh, ychydig yn hwyrach na’r amser arferol i raglenni plant ar S4C,” meddai.
“Mae’n amser pan mae teuluoedd fel arfer yn eistedd i lawr i wylio’r teledu.
“Rydym wedi cael arbenigwyr yn ein cefnogi’r holl ffordd trwy’r broses o wneud y gyfres hon gan roi cyngor ar y materion sy’n cael eu portreadu yn y rhaglenni.
“Mae’r dramâu hyn yn heriol ond yn realistig ac mae’r amodau sy’n cael eu portreadu yn ddifrifol ond mae Bex yn dod â gobaith.
“Mae’r plant yn mynd trwy lawer ond rydyn ni wedi gwneud hynny gyda chymorth yr arbenigwyr, dydyn ni ddim eisiau cymell unrhyw gyflwr neu ddigwyddiad mewn unrhyw un ond rydyn ni wedi ceisio bod yn onest.”