Mae gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd wedi gorffen yn y pump uchaf yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2021.

Cafodd y seremoni ei chynnal nos Sadwrn (Hydref 23) yn yr Amgueddfa Trafnidiaeth yn Coventry, sef y Ddinas Diwylliant bresennol.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol iddyn nhw ymddangos ar un o restrau byrion y gwobrau, sy’n cydnabod gorsafoedd radio ledled y Deyrnas Unedig.

Roedd yr orsaf wedi cyrraedd y pump uchaf yn y categori Gorsaf Ddigidol neu RSL y flwyddyn, a gafodd ei llunio o fwy na 430 o orsafoedd gwahanol.

‘Anrhydedd’

Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn darparu rhaglenni i gleifion yn yr ysbyty ym Mangor a’r gymuned ehangach.

Mae Kevin Williams, Cadeirydd yr orsaf, wrth ei fodd gyda’r gydnabyddiaeth.

“Rydyn ni i gyd mor hapus ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y pum gorsaf radio orau ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer gwobr Digidol neu Orsaf RSL,” meddai.

“Rwyf mor falch o bob un o’n gwirfoddolwyr sydd i gyd yn gweithio’n galed i baratoi eu sioeau ar gyfer ein cleifion a’n cymuned ehangach.

“Fel gorsaf, rydym wedi datblygu eto dros y 12 mis diwethaf; denu cyflwynwyr newydd a chyflwynwyr profiadol i’n gorsaf a datblygu ein hamserlen gyda hyd yn oed mwy o sioeau newydd.

“Mae’n gymaint o anrhydedd i ni gael ein cydnabod yn genedlaethol a chwifio’r faner dros Gymru.”

Eleni, mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 45 mlynedd ers dechrau darlledu yn 1976, ac mae’r gwirfoddolwyr y tu ôl i’r orsaf yn cynllunio digwyddiad arbennig i ddathlu’r pen-blwydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 20.

Byddan nhw’n datgelu rhagor o wybodaeth am hynny ar-lein dros yr wythnosau nesaf.