Mae grŵp o wedi ennill cais gwerth £50m i ddatblygu clwstwr fydd yn arwain y byd ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau yng Nghaerdydd.

Gallai dwy fil o swyddi newydd gael eu creu yng Nghaerdydd drwy raglen bum mlynedd gan media.cymru.

Mae media.cymru’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, ac yn uno 24 o bartneriaid cynhyrchu, darlledu, technoleg, prifysgolion, ac arweinwyr lleol am y tro cyntaf er mwyn adeiladu rhaglen i danio arloesedd yn y cyfryngau.

Bwriad yr arian yw gwneud y brifddinas yn hwb rhyngwladol ar gyfer arloesi yn y cyfryngau ac ym maes cynhyrchu.

Dilyna’r rhaglen lwyddiant nifer o raglenni a ffilmiau, megis His Dark Materials a Doctor Who, a gafodd eu ffilmio yng Nghymru.

O fewn pum mlynedd, mae media.cymru yn anelu at greu mwy o gwmnïau yn yr ardal, a fyddai wedyn yn arwain at greu 2,000 o swyddi.

Mae’r rhaglen, sydd fod i ddechrau yn 2022, yn addo creu “cyfleoedd” ar gyfer y sector cyfryngau gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, cynyrchiadau dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg.

Mae’r arian wedi’i roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ogystal â buddsoddwyr eraill.

“Canolbwynt byd-eang”

Dywedodd yr Athro Justin Lewis o media.cymru a Chyfarwyddwr Clwstwr yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Ar ôl effaith ddinistriol Covid-19, nid yw’r angen am arloesedd digidol yn y sector creadigol erioed wedi bod mor hanfodol.

“Felly, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn gan y llywodraeth drwy gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant cynyddol sector y cyfryngau yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni adeiladu ar nodau rhaglen Clwstwr, sydd eisoes wedi helpu llawer o fusnesau a gweithwyr llawrydd yn yr ardal i dyfu a datblygu.

“Nod rhaglen media.cymru yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Prifddinas Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau.

“Bydd yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd sy’n gweithio yn y maes cyffrous hwn gydweithio ac arloesi, gan adeiladu ar ran annatod o’r economi. Ein nod yw datblygu sector cyfryngau o’r radd flaenaf sy’n ysbrydoli.”

“Andros o bwysig”

Mae £22.2 miliwn o’r arian wedi’i roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd effaith y buddsoddiad yn cael ei deimlo ar draws Cymru, yn ôl y Ceidwadwyr.

“Mae’r diwydiant cyfryngau yn andros o bwysig, nid yn unig fel ased creadigol, ond oherwydd bod y gadwyn gyflenwi mor amrywiol a phellgyrhaeddol,” meddai Gweinidog yr Economi’r Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

“Felly, bydd effaith buddsoddiad sylweddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn media.cymru yn cael ei deimlo ar draws Cymru gyfan, nid yn unig yn ardal dinas Caerdydd.

“Mae Cymru angen arweinyddiaeth ar ail-hyfforddi gweithwyr, tyfu dwyieithrwydd ac economïau rhanbarthol, ac ymateb i dechnolegau newydd – yn union fel mae’r rhaglen hon yn ei wneud – ac mae’n wych gweld y Llywodraeth Geidwadol yn cyflwyno hynny.”

“O nerth i nerth”

Ychwanegodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, eu bod nhw’n “falch iawn” bod cronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig” wedi dyfarnu’r swm i media.cymru.

“Wrth i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru fynd o nerth i nerth, mae’r cyllid hwn yn hanfodol i roi help i fusnesau creadigol brofi eu hunain yn y dyfodol gyda’r technegau cynhyrchu diweddaraf. Bydd hefyd yn eu helpu i neilltuo amser gwerthfawr i ymchwilio a datblygu cynnwys a phlatfformau cyflwyno’r dyfodol,” meddai Dawn Bowden.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gynhyrchu pecyn cefnogaeth gwerth £2m gan ein hadrannau sgiliau, rhanbarthol ac isadeiledd a gydlynir gan Gymru Greadigol. Bydd y gwaith a gaiff ei wneud yn gynaliadwy, yn unol â’n hymrwymiadau amgylcheddol ac yn cefnogi gweithlu amrywiol a chynhwysol.”