Bydd trysorau’r Eisteddfod Genedlaethol yn gefnlen i berfformiadau byw gan rai o artistiaid blaenllaw Cymru mewn rhaglen newydd, Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig.

Nos Wener, 6 Awst, bydd Sian Eleri, sy’n cyflwyno ar BBC Radio 1 a Radio Cymru, yn tywys gwylwyr drwy warws yr Eisteddfod Genedlaethol gan edrych ar Ferched yn Gwneud Miwisg.

Bydd Adwaith, Asha Jane, Eädyth Crawford, Hana Lili, Thallo, Gwenno Morgan a Casi Wyn yn cael cyfle i berfformio yn ‘Storfa’r Steddfod’ – ble mae holl drugareddau’r Eisteddfod yn cael eu cadw, o gadeiriau’r orsedd i set Maes B.

Cyn y pandemig, roedd prosiect Merched yn Gwneud Miwsig, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach, yn dod â merched ifanc ar draws Cymru at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd gan rai o fenywod y sîn gerddorol.

Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau megis gweithdai cyfansoddi gyda Heledd o HMS Morris, sesiwn offerynnau gyda’r band Adwaith, gweithdy DJio gydag Anya Bowcott a sesiwn gelf gydag Ani Saunders ac Elin Meredydd.

Yn sgil llwyddiant y gweithdai, mae’r brand wedi tyfu ac mae Merched yn Gwneud Miwsig yn manteisio ar hynny drwy gynnig platfform i fenywod sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru.

“Hwb mawr”

Yn ôl Elin Edwards, prif leisydd Thallo, mae gweld gwaith creadigol yn llifo drwy Gymru yn “hwb mawr”.

Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn arddangosiad wych o dalent creadigol merched Cymraeg,” meddai Elin Edwards.

“Mae’n hwb mawr gweld gwaith creadigol ac ysbrydoledig yn llifo drwy Gymru ar hyn o bryd.

“Dydw i erioed wedi perfformio mewn lleoliad unigryw fel hyn o’r blaen ac roedd yn fraint cael fy newis ymysg artistiaid eraill anhygoel.”

Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn brosiect hynod o gyffrous ac rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r rhaglen hon sy’n rhoi llwyfan i gymaint o gerddorion talentog,” ychwanegodd Sian Eleri.

“Gyda chymaint o gerddoriaeth arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n wych rhoi sylw i’r menywod yma yn enwedig mewn lleoliad sydd mor anhygoel.’

  • Maes B: Merched yn Gwneud Miwsig ar S4C nos Wener, 6 Awst am 9:30pm