Mae’r Fonesig Diana Rigg wedi cael ei chofio fel actores wnaeth “ysgubo popeth o’i blaen” ar ôl iddi farw’n 82 oed.

Mae hi’n cael ei hadnabod fwyaf am actio yn The Avengers, Game Of Thrones ac On Her Majesty’s Secret Service yn ogystal ag ennill Bafta yn 1990 am ei rôl yn Mother Love.

Diana Rigg yn Game of Thrones

Cafodd ei diagnosio gyda chanser yn gynharach y flwyddyn hon.

Bu farw’n heddychlon yn ei thŷ, meddai ei merch, yr actores Rachael Stirling.

“Bu farw fy mam annwyl yn heddychlon yn ei chwsg bore ’ma, gartref, gyda’i theulu o’i chwmpas,” meddai.

“Byddai’n ei methu hi’n arw.”