Mae’r cyfryngau wedi “anwybyddu” y celfyddydau wrth ohebu yn ystod argyfwng Covid-19, tra’n rhoi sylw diffael i chwaraeon.

Dyna gŵyn cynhyrchydd teledu o Dalybont, Ceredigion, wrth drafod y cymorth sydd ei angen i ddiolgelu’r diwydiant celfyddydol yng Nghymru.

“Am ryw reswm mae’r llywodraethau yn ddall a mud i’r celfyddydau a dw i’n ofni bod y cyfryngau torfol traddodiadol – radio a theledu – wedi anwybyddu’r celfyddydau wrth adrodd ar sefyllfa Covid yn ddyddiol,” meddai Catrin M S Davies.

“Collwyd dim un cyfle na bwletin i adrodd ar y ffaith nad oedd pêl-droed na rygbi yn digwydd.

“Bob dydd, bob rhaglen newyddion mi glywon ni’r un hen dôn ond bach iawn fu’r sôn am ddim sinema, ddim theatr, dim cyngerdd, dim recordio cerddoriaeth mewn stiwdio, dim perfformiadau comedi, dim ymarferion theatr, dim ymarferion dawns, dim agoriadau celfyddydol mewn oriel, dim gweithdai cerddorol, celf, crefft i blant.”

Mae hi’n dweud ei bod hi’n “sefyllfa ddu iawn” i bobol lawrydd sy’n gweithio yn y celfyddydau, er gwaetha’r £59 miliwn sydd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Prydain ar gyfer diogelu dyfodol y celfyddydau yng Nghymru.

Dim sicrwydd ariannol

Wrth i Golwg fynd i’r wasg ddydd Mawrth, roedd Llywodraeth Cymru eto i benderfynu faint o’r arian a fyddai’n cael ei wario’n benodol ar y Celfyddydau.

“Mae yna weithwyr llawrydd o fyd y cyfryngau y gwn i amdanynt sy’n gweithio fel glanhawyr ar y foment er mwyn cael incwm,” meddai Catrin M S Davies. “Mi wn i am berfformwyr llawrydd sydd heb dderbyn unrhyw gymhorthdal – o gwbl – yn y misoedd diwethaf oherwydd cyfuniad o weithio yn hunan-gyflogedig a chyflogedig y llynedd (sy’n batrwm cyfarwydd i nifer yn y maes) ac felly’n methu cyrraedd y trothwy hunan-gyflogedig ond hefyd ddim ar ffyrlo unrhyw gwmni.

“Mae diffyg incwm arferol dros gyfnod o bedwar mis yn siŵr o fod yn peryglu morgais rhywun ac mae edrych i’r dyfodol a gweld yr un sefyllfa am o leia chwe mis arall yn sefyllfa ddu iawn.”

Mae incwm arferol nifer uchel o weithwyr llawrydd ym myd y celfyddydau yng Nghymru yn “isel iawn ta beth”, yn ôl y cynhyrchydd, sy’n berchen ar ei chwmni cynhyrchu ei hun, Unigryw.

“Maen nhw wedi arfer bod ar y ffin rhwng cadw i fynd a pheidio,” meddai, “felly mae cyfnod fel hyn yn ddifrifol iawn gan nad oes yna gelc wrth gefn.”

Mae’r dweud ei bod hi’n “gyfnod pryderus ofnadwy” i holl faes y celfyddydau.

“Dyma faes sy’n gwbl ddibynnol ar bobol a pherthynas pobol â’i gilydd,” meddai. “Diwydiant a diwylliant pobol yw’r celfyddydau. Pobol yn cydweithio, yn creu gyda’i gilydd ac yn cyflwyno’r gwaith i bobl mewn torf. Fel y gwyddom yn dda, y mae’r ffordd y mae gofyn i ni ymbellhau er mwyn cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel rhag Covid yn golygu bod cydweithio rhwng pobol yn llawer mwy anodd.

“Gall cerddorion ddim cyd-berfformio yn y un ffordd, gall actorion a dawnswyr ddim paratoi gwaith gyda’i gilydd fel arfer, heb sôn am rwystrau niferoedd cynulleidfa i berfformiadau byw.”

Ofni mai’r sefydliadau mawr fydd yn cael y pres

Mae Catrin MS Davies hefyd yn cwestiynu a yw’r £59 miliwn yn ddigonol, ac yn ateb gofynion fformiwla Barnett, sef y canllawiau ar rannu arian yn deg â’r gwledydd datganoledig o Lundain.

“Os yw hynny yn wir, yna mae’n sgandal,” meddai. “Dyw £59 miliwn ddim yn ddigon a fy mhryder i yw y bydd yn cael ei lyncu gan adeiladau a sefydliadau mawr. Maen nhw angen eu hachub, ydyn, ond mae angen rhoi arian i mewn i’r cwmnïau, grwpiau llai ac unigolion sydd ar waelod y rhestr achos o fan yna y mae syniadau newydd yn dod.

“Y bobol hynny sy’n adnewyddu byd y theatr, byd dawns, celf weledol – bob tro. Sut mae diogelu’r rheiny? Mae tueddiad wedi bod gan Gyngor y Celfyddydau yn y degawdau diwethaf i ariannu sefydliadau ac adeiladau a thorri lawr ar arian project – dw i wir yn gobeithio na fyddan nhw yn unllygeidiog nawr ac yn cadw at ariannu’r brif ffrwd yn unig.”

Mae Catrin MS Davies yn cytuno gyda Phlaid Cymru yn ei llythyr agored yn ddiweddar a oedd yn galw am dri ymyriad ‘brys’ gan Lywodraeth Cymru i achub y diwydiant, gan gynnwys ffurfio ‘Tasglu Brys’ gyda chynrychiolwyr o fudiadau’r theatr, mudiadau celfyddydol, gweithwyr llawrydd, artistiaid a gweithwyr cymunedol.

“Dw i’n cytuno bod cael tasglu yn syniad da,” meddai Catrin M S Davies.

“Ond mae rhaid cadw’r nifer yn dynn ond yn gynrychiadol o bob agwedd ac o bob ardal.

“Mae’n rhaid hefyd gwasgu ar unrhyw ymgynghori i fod yn chwim er mwyn peidio colli mwy o amser. Wrth golli amser bydd adnoddau yn diflannu.

“Dw i’n poeni y bydd y celfyddydau ar lawr gwlad, prosiectau bychain, gweithwyr llawrydd yn dioddef yn ofnadwy.

“Orielau bychain – a fydd y rheiny yn goroesi? Gwyliau bychain sydd yn cyfrannu cymaint i’n trefi, i’n bywyd cymdeithasol a’n diwylliant – beth a fydd dyfodol y rheiny?

“Cwmnïau bychain cydweithredol oedd wedi ceisio cychwyn … a fydd unrhyw dasglu yn poeni am y rheiny? Neu a fydd y ffocws i gyd ar ddinasoedd, ar gwmnïau mawr ac ar adeiladau.

“Gobeithio ddim.”