Mae  Tom Meighan, cyn-ganwr y band Kasabian, wedi osgoi carchar am “ymosodiad parhaus” ar ei gyn ddarpar-wraig.

Yn Llys Ynadon Caerlŷr, cafodd ei orchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-dâl ar ôl pledio’n euog i ymosod ar Vikki Ager.

Clywodd y llys bod Vikki Ager wedi cael ei tharo yn ei hwyneb, ei gwthio i mewn i gawell bochdew (hamster), ai bygwth gyda phaled pren droeon yn ystod yr ymosodiad ar Ebrill 9.

Mae lluniau CCTV yn dangos Tom Meighan yn taro Vikki Ager a’i llusgo gerfydd ei fferau i mewn i ardd gefn eu cartref, gan achosi sawl anaf.

Dywedodd y barnwr, Nick Watson, wrth y canwr y gallai fod wedi ei “yrru i’r carchar am hyn”.

Aeth yn ei flaen i ddweud nad oedd Vikki Ager wedi gwneud datganiad i’r heddlu ac nad oedd hi “fel petai’n cefnogi ei erlyniad” ond fod yr heddlu wedi cael eu galw i’r cyfeiriad o’r blaen a bod yna “dystiolaeth o ymddygiad treisgar blaenorol”.

“Gadael pobol i lawr”

Dywedodd Nick Watson wrth Tom Meighan fod yn rhaid iddo “ystyried nid yn unig dy fod wedi brifo Vikki Ager, ond rwyt ti hefyd wedi gadael nifer o bobol i lawr – aelodau’r band a’r rheini sy’n caru dy gerddoriaeth”.

“Byddan nhw wedi syfrdanu i glywed beth wnes di’r noson honno,” meddai.

Cafodd yr ymosodiad ei weld gan blentyn wnaeth alw 999, yn ôl yr erlynwr Naeem Valli.

Roedd y plentyn yn “swnio mewn panig ac ofn” tra bod modd clywed Vikki Ager yn gweiddi “Dos oddi arna i, dos oddi arna i” yn y cefndir.

Ychwanegodd Naeem Valli fod y canwr yn “ogleuo’n gryf o ddiodydd meddwol” yn ystod yr ymosodiad ac yn “anghydweithredol ac ymosodol” tuag at heddweision pan gyrhaeddon nhw.

Gwadodd Tom Meighan yr ymosodiad i ddechrau, ond ar ôl i luniau CCTV gael eu dangos iddo, dywedodd wrth heddweision nad oedd yn gallu parhau i edrych oherwydd ei fod yn “afiach”.

Daeth yr achos llys ddiwrnod ar ôl i’r band Kasabian gyhoeddi fod Tom Meighan yn gadael y band.