Caws Cenarth
Fe fydd rhai o gynhyrchwyr bwyd mwyaf blaenllaw Cymru yn cael eu croesawu i’r Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Fe fyddan nhw’n dangos rhai o’r sgiliau a’r cynnyrch sy’n golygu bod bwyd o Gymru’n gwneud ei farc ledled y byd.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae ffermio a chynhyrchu bwyd ymhlith y diwydiannau mwyaf sydd gennym yma yng Nghymru.
“Felly pa ffordd well i nodi Dydd Gŵyl Dewi na thrwy ddathlu’r cyfoeth o fwyd a gynhyrchir yma?
“Mae’r sector bwyd mor bwysig o ran creu economi gynaliadwy a blaengar, ac mae’n bwysig cydnabod cyfraniad ariannol y cynhyrchwyr hyn i Gymru.”
Bydd ymwelwyr â’r Senedd hefyd yn cael cyfle i flasu bwyd o Gymru.
Ymhlith y rhai fydd yn arddangos eu cynnyrch yn y Senedd mae Rachel’s Organic, Gorno’s Speciality Foods, Caws Cenarth, Paned Gymreig, Welsh Speciality Foods a Bwydydd Castell Howell Foods.
Bydd y Llywydd yn croesawu gwesteion i’r Senedd am 12.10pm ac yna bydd perfformiad gan Gôr Meibion Cil-y-Coed.
Ar ôl y perfformiad cerddorol caiff y gwesteion fwynhau arddangosfeydd bwyd gan dîm coginio Cymru tan 1.30pm.