Mae cogydd ifanc o Fôn wedi ennill ei seren Michelin gyntaf.
Mae Tomos Parry o Landegfan bellach yn byw a gweithio yn Llundain, lle mae’n gyfrifol am ei fwyty ei hun – Brat – yn ardal Shoreditch.
Mae wedi gwneud ei enw trwy ddarparu prydau gyda chynnyrch o Gymru sy’n cael eu coginio yn ardull Gwlad y Basg.
Dim ond ers dechrau’r flwyddyn y mae’r bwyty wedi bod ar agor.
Saith seren i Gymru
Mae sêr Michelin yn cael eu cyfrif gyda’r uchaf o wobrau o fewn y diwydiant bwyd, ac fe gafodd y sêr am eleni eu henwi neithiwr (dydd Llun, Hydref 1).
O ran y bwytai o Gymru a gafodd eu henwi, mae pob un o’r saith a oedd eisoes â seren Michelin wedi llwyddo i ddal eu gafael arnyn nhw.
Y bwytai hynny yw:
- Ynyshir, Machynlleth;
- The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd;
- Sosban and Old Butchers, Porthaethwy;
- Tyddyn Llan, Llandrillo;
- The Chequers, Trefaldwyn;
- Bwyty James Sommerin, Penarth;
- Whitebrook, Sir Fynwy.