Lowri Jones sy’n edrych ar wythnos ar gyfer y cigwrthodwyr yn ein mysg…
Anghofiwch hybu cig Cymru – rhoi snub i gig Cymru y mae Wythnos Genedlaethol y Llysieuwyr (Mai 24 – 30).
O ran ysbrydoliaeth, mi ddylai hyn fod yn hawdd, gan fod Cymru’n meddu ar un o nawddseintiau llysieuaeth – Dewi Sant! – yn ogystal â’r llysieuwr mwyaf anhebygol erioed ym mherson Hannibal ‘Y Canibal’ Lecter (ie ie, ocê… Anthony Hopkins).
Mae manteision y ffordd o fyw lysieuol hefyd yn amlwg – mae ar y cyfan yn rhatach, yn iachach ac yn helpu achub yr amgylchedd yn ogystal ag anifeiliaid.
Ond mae bod yn llysieuwr – neu ‘chwyngachwr’ i ddefnyddio bathiad ‘hyfryd’ y Rhegiadur Cymraeg – yn gallu bod yn anodd.
Chi’n cofio Rose Griffiths druan o’r gyfres Coal House yn wynebu’r posibilrwydd o ladd ei chwningod anwes am fwyd, gweithredwyr Peta yn bwio Katherine Jenkins am iddi agor siop (ffafrwyr ffwr) Harrods a hithau’n llysieuwraig frwd, a phwy all anghofio’r aflonyddwch yn sgil apwyntiad Christine Gwyther – llysieuwraig! – fel Gweinidog Amaeth i Gymru gynt?
Ond tyfu y mae’r ffordd o fyw yn ôl pob sôn, gyda’r Gymdeithas Lysieuol yn amcangyfri’ bod ‘na fwy o Gymry nag erioed yn mabwysiadu elfennau llysieuol.
Beth felly sydd yn y fasged siopa lysieuol dyddiau ‘ma?
Mae’r clasur llysieuol o Gymru, y ‘Welsh Rarebit’, yn rhwyddach fyth ei goginio nawr diolch i gynnyrch barod-i-daenu newydd ‘Natty’s Welsh Rarebit’ (www.nattys.co.uk) – mae’r blasau gwreiddiol, tshili a chennin yn addas i lysieuwyr; os am wneud eich caws pobi eich hun, yna Caws Aeddfed Cryf ‘Calon Wen’ (www.calonwen.co.uk) yw’r cynhwysyn perffaith, gan iddo ennill gwobr y caws llysieuol gorau gan gylchgrawn Cook Vegetarian rhai misoedd yn ôl; ac i frechdanau (gyda eog mwg os y’ chi’n bescatarians), mae cwmni ‘Kid Me Not’ (www.kidmenot.co.uk) ar fin lansio potiau caws gafr taenadwy llysieuol newydd.
Mae prydiau parod llysieuol Blodfresych/Saws Caws a Chennin/Tatws Gratin ‘Really Welsh’ (www.reallywelsh.com) yn gwerthu fel slecs dyddiau ‘ma, tra bod cynnyrch gwobrwyedig Gwir Flas ‘Greta’s Wholefoodies’ (www.gretaswholefoodies.com) yn berffaith ar gyfer barbeciw hafaidd llysieuol – byrgyrs Bara Lawr, Ffa Llygad Du a Chyri Ffacbys unrhywun?
Ar gyfer pob cawl, saws, salad neu lenwad brechdan llysieuol, mae cwmni organig ‘Knobbly Carrot’ (www.theknobblycarrot.co.uk) – gwyliwch y gofod am “ddau gawl eithriadol o wahanol” fydd yn gobeithio lansio’n y Sioe Frenhinol.
Wrth gwrs, er gwaetha’ ‘Gwyther-gate’ ers dalwm, diwydiant amaeth Cymru sy’n darparu llawer o gynnyrch llysieuol gorau’r wlad, drwy gyfrwng marchnadoedd (dros 60), siopau fferm a chwmiau bocsys llysiau – mae’r datblygiadau’n gyson, ac yn ddiweddar lansiwyd cynllun garddwriaethol ac organig Gardd Farchnad Riverside (www.riversidemarketgarden.co.uk) ym Mro Morgannwg, sydd yn gobeithio darparu llysiau, ffrwythau, saladau a pherlysiau i gannoedd am brisiau fforddiadwy.
Ac o ran cyrchfannau llysieuol, mae ‘na ‘Fachynlleth’ newydd ar y sîn, sef dinas fawr Caerdydd, diolch i amryw o fwytai llysieuol yn cynnwys Milgi (www.milgilounge.com), sydd – ers diwrnod erbyn hyn – wedi troi’n 100% llysieuol yn dilyn pleidlais annisgwyl gan gwsmeriaid – bydd dathlu’r Gŵyl y Banc yno yn cynnwys clwb ciniawa llysieuol, cegin lysieuol, juice bar a mwy.
Cyn hynny, mae cyfle i ddathlu yng Ngŵyl Lysieuol Caerdydd (www.cardiffveggie.com) ddydd Sadwrn (Mai 22) yng nghwmni cynhyrchwyr lleol fel y siocledwr figan ‘Hipo Hyfryd’ (www.hipohyfryd.co.uk) a chwmni coginio cydweithredol y ‘Parsnipship’ (www.theparsnipship.co.uk).
Bydd y llysieuwr brwd Paul McCartney’n siŵr o gymeradwyo wrth ymweld fis Mehefin!