Mae cynlluniau newydd ar gyfer canolfan gelfyddydau ac arloesi gwerth dros £35m yng ngogledd Cymru wedi cael eu cyhoeddi.

Mae prosiect Pontio ym Mangor yn cynnwys theatr gyda 450-550 o seddi, sinema, theatr stiwdio, amffitheatr awyr agored, bariau, mannau bwyta a pharciau ar gyfer teuluoedd yn y newid mwyaf y bydd y ddinas wedi’i brofi ers degawdau.

Credir y bydd y cynllun yn diogelu 450 o swyddi’n ystod y gwaith adeiladu a 450 arall ar ôl i’r adeilad agor yn 2012.

Bydd yr adeilad newydd yn cyfuno’r celfyddydau a’r gwyddorau ac yn anelu i feithrin “cysylltiadau agosach gyda chymuned Bangor” gan ddarparu cartref newydd i Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, yn ôl trefnwyr.

Amrywiaeth

“Bydd yn cynnal amrywiaeth eang o berfformiadau o gynyrchiadau theatr ysblennydd, ffilm, syrcas, dawns, cyngherddau roc a phop i opera a llawer mwy,” meddai dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Fergus Lowe. Mae’r Brifysgol yn cyfrannu £15m at y gost.

“Bydd y prosiect hwn yn rhoi Bangor ar y map ac yn helpu i adfywio canol y ddinas.

“Cymaint fydd rhagoriaeth artistig ac arloesi y Ganolfan, mae’n siŵr o ddenu pobl o bell ac agos, a rhoi hwb newydd i dwf economi’r gogledd,” meddai Fergus Lowe.