Mae pum cwmni pysgota o Gymru yn gobeithio rhwydo marchnadoedd newydd drwy gymryd rhan yn ffair fwyd môr fwyaf y byd, sef Sioe Bwyd Môr Ewrop, rhwng 3 a 5 Mai.

Bydd y cwmnïau Bangor Mussel Producers, Selwyns Penclawdd Seafoods, Anglesey Sea Bass Selonda UK, The Lobster Pot a Bay Seafoods, ymysg 1600 o arddangoswyr o’r diwydiant pysgota fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad a gynhelir yng Nghanolfan Arddangosfa a Chynadleddau Brwsel ym mhrifddinas gwlad Belg.

Gan ddenu prynwyr a gwerthwyr o dros 140 o wledydd, bydd y cwmnïau o Gymru – sy’n cynnwys enillwyr Gwobrau Gwir Flas – yn arddangos dan fantell Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd stondin Cymru yn arddangos y cwmnïau ac amrediad o’u cynnyrch yn cynnwys draenogiaid môr Ynys Môn, cregyn bylchog a chregyn y frenhines, cimychiaid, cocos, cregyn gleision a bara lawr.

Gall ymwelwyr hefyd flasu ansawdd uchel cynnyrch Cymru gyda chef ar y stondin yn coginio amrywiaeth o seigiau.

Mae marchnad bwyd môr y Deyrnas Unedig yn werth tua £2.72 biliwn a chynyddodd gwariant defnyddwyr ar bysgod yn gyflymach nag ar gyfer bwydydd eraill gyda chynnyrch pysgod a physgod cregyn bellach yn 5.9% o’r gwariant ar fwyd.

Caiff tua 80% o bysgod a physgod cregyn Cymru eu hallforio i’r cyfandir, lle mae llawer o alw am y cynnyrch.

Bwyd môr di-ri

Mae dyfroedd Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o bysgod a physgod cregyn, a chaiff mwy o bysgod eu glanio yn Aberdaugleddau nag yn Brixham neu Ddociau Plymouth.

Mae draenogiaid y môr, cathod môr, lledod Mair, celogiaid, lledod brych, pengryniaid, lledod chwithig, lledod bannog a lledod garw i’w cael yn y môr o amgylch Cymru yn ogystal â gwichiaid môr, cregyn bylchog, crancod brown, crancod corynnog, cimychiaid a chorgimychiaid.

Dywedodd Llywodreath y Cynulliad fod Strategaeth Pysgodfeydd Cymru yn amlinellu eu gweledigaeth hirdymor ar gyfer pysgodfeydd. Cafodd ei lansio yn 2008 i annog mwy o gyfleoedd ar gyfer pysgod a bwyd môr o Gymru.

Mae’r strategaeth yn trafod pysgota masnachol yn y môr, pysgota hamdden yn y môr, dyframaeth a physgodfeydd mewndirol, ac fe’i datblygwyd mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid yn cynnwys cyrff amgylcheddol gan gynnwys World Wildlife Fund Cymru.