Fe gipiodd Firstleaf y wobr aur yng nghategori ‘Cynnyrch ffres – cynhyrchydd bach’ yng Ngwobrau’r Gwir Flas eleni gyda’i saladau gwahanol.

Egin syniad

Sefydlwyd y cwmni ‘n ôl yn 2004 gan Derek Lewis, brodor o ardal Crymych oedd wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Lloegr am 25 mlynedd. Fe benderfynodd ddod yn ôl i’w fro enedigol “gyda ‘mhartner, Catherine, a’r tŷ gwydr”.

“O’n i wastad â diddordeb mewn tyfu saladau ac erbyn hyn wedi gweld gap yn y farchnad rhwng y baby leaf a’r hadau blaguro,” meddai Derek Lewis. “Roedd microgreens yn boblogaidd iawn yn America ar y pryd ond ro’n nhw’n beth newydd ym Mhrydain, wedyn fe es i amdani”.

“O’n i wedi arfer â dulliau cemegol – dyma un o’r rhesymau pam fod Firstleaf wedi penderfynu tyfu mewn ffordd ecogyfeillgar ac amddiffynol o’r dechrau’n deg”.

Bwyd cwningen neu gorila?

Ar ôl cael llwyddiant ym maes dail salad, dechreuodd Derek ymchwilio i dyfu a gwerthu blodau at eu bwyta.

Ers tair blynedd bellach mae’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw yn ystod tymor yr haf i gwsmeriaid De-orllewin Cymru ac, ers 2008, yn gallu eu hanfon i rannau helaeth o wledydd Prydain.

“Un o’r cwsmeriaid cyntaf oll, bron, oedd y berfformwraig bwrlésg enwog o America, Dita von Teese,” meddai Derek Lewis. “Roedd hi’n hyrwyddo coctels piws mewn rhyw glwb yn Llundain ac angen Firstleaf i ddarparu fioledau bwytadwy!”

“Ond un o’r cwsmeriaid eraill oedd un o’r rhai mwya’ cyffrous mewn llawer ffordd – ac yntau’n 5 troedfedd o daldra, yn pwyso 65 kilo ac yn flewog tu hwnt, Jookie oedd gorila newydd Sŵ Llundain. Ro’n nhw am dynnu llun ohoni’n bwyta blodau amryliw i photoshoot yn y papurau ac felly ces i alwad!”.

Y cwmni’n blodeuo

Dim ond dau sydd yn y busnes ond, fel y salad, mae’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn o ran maint y cynnyrch a nifer yr archebion.

“Yn ogystal â phrysurdeb y busnes blodau drwy’r haf, r’yn ni bellach yn cyflenwi saladau drwy gydol y flwyddyn i westai a bwytai yn ne-orllewin Cymru fel Llys Meddyg yn Nhrefdraeth a Morgans yn Nhyddewi. Mae’n anodd eu gyrru ymhellach gan eu bod yn gynnyrch byw”.

“Gyda’r blodau wedyn, beth sy’n boblogaidd iawn mewn priodase’r dyddie yma yw cupcakes a’r ffasiwn o’u haddurno â blodau bwytadwy amryliw i blesio’r llygad. Dyna yw’r apêl gyda’r saladau hefyd falle – mae dyn’on yn lico cael bach o liw yn eu bywyde!”.