Roedd yna rew mewn rhannau o Gymru neithiwr wrth i’r tymheredd ddisgyn dan finws 8C mewn rhai llefydd yng ngwledydd Prydain.

Ac mae un grŵp o arbenigwyr wedi darogan y bydd y gaeaf yma’n oer, gyda chyfnodau rhewllyd iawn yn ystod y tri mis nesa’.

Yn ôl arbenigwyr Swyddfa’r Met, fe fydd y tywydd oer a’r eira yn ucheldiroedd Cymru, yr Alban a Gogledd Lloegr yn troi’n law heno.

Ymhlith yr ardaloedd oeraf ym Mhrydain, roedd Swydd Aberdeen ar -8.9C (16F) Swydd Rhydychen -4.9C (23F) ac fe ddisgynnodd y tymheredd yn Chesam i -3C (27F.).

Oerach

Eisoes, mae ‘The Weather Outlook.com’ wedi datgan mewn adroddiad am 2009/10 y bydd y gaeaf eleni’n oerach nag arfer.

Fe fydd y cyfnodau oera’n digwydd mewn dau gyfnod rhwng canol mis Rhagfyr a chanol Ionawr ac yna yn ystod ail hanner Chwefror.

Yn ôl arbenigwyr tywydd, mae disgwyl eira yn ystod ail hanner mis Chwefror.