Dyw un ym mhob tri o alwadau i ganolfan gymorth yr elusen Childline yng ngogledd Cymru, ddim yn cael eu hateb.

Mae’r elusen yn apelio am hyd at 80 yn rhagor o wirfoddolwyr, gan eu bod yn derbyn cymaint o alwadau yn y ganolfan ym Mhrestatyn.

Fe fu sefydlydd yr elusen, Esther Rantzen, yn ymweld â’r ganolfan ddoe i siarad gyda rhai o’r 137 o wirfoddolwyr sydd yno eisoes.

Mae’r ganolfan yn ateb galwadau gan blant ar draws y DU, ac mae uned ar gyfer siaradwyr Cymraeg yno.

Derbyniodd y ganolfan fwy na 20,978 o alwadau gan blant rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2009.

Yn ystod ei hymweliad, dywedodd Esther Rantzen ei bod hi’n “drasiedi” os yw plentyn wedi “cael y dewrder i alw” a bod y ffôn ddim yn cael ei ateb.


Gwasanaeth e-bost

Mae’r elusen wedi dechrau gwasanaeth i alluogi plant i gysylltu gyda nhw ar e-bost, ac mae gwasanaeth neges destun hefyd yn cael ei baratoi.

Gall unrhyw un sydd dros 16 weithio yn y ganolfan gymorth. Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant, a does dim gofynion penodol.

Mae manylion ar gael ar y rhif 0207 267 016 yn ystod oriau gwaith, neu ar y rhif 07977 127 064 ar adegau eraill.