A hithau’n tynnu at ddiwedd yr haf (cyn Haf Bach Mihangel digywilydd gobeithio!), mae’r awydd i fwyta’n gartrefol ond ysgafn dal yn cydio cyn i ni ddechrau ildio i demtasiynau’r carbohydradau swmpus hynny ar gyfer oerfel y gaeaf.
Pa well cynllun, felly, na phryd ysgafn yn yr ardd gyda ffrindiau? Salad ffres, coctêls neu foctêls a Chychod Briwgig Eidion Mecsicanaidd Tsili a Chaws? Mae’r cynhwysion yn flasus ond yr elfen steil ‘burrito’ yn sicrhau ei fod yn bryd ysgafnach ar y stumog na chig mewn bagét neu rôl arferol.
Mae burritos briwgig eidion yn deillio o’r Unol Daleithiau, yn benodol o’r de-orllewin, lle mae bwyd Mecsicanaidd wedi dylanwadu’n sylweddol ar ddiwylliant bwyd lleol. Fe ddaeth y cysyniad o’r burrito ei hun yn boblogaidd o ddechrau’r ugeinfed ganrif ymlaen, mewn lleoedd fel Ciudad Juárez, Mecsico.
Dyma bryd blasus yn llawn blasau ffrwydrol ond eto ffres. Beth am baratoi, felly, at ffarwelio gyda’r Haf mewn steil ym mlasau bywiog ac amrywiol bwyd Mecsicanaidd a nodweddir mor aml gyda chyfuniad o sbeisys, perlysiau a chynhwysion ffres? Ac yn well na dim, mae’n bryd cyflym i’w goginio wedi i chi baratoi’r cynhwysion ymlaen llaw. Mwynhewch!
Yr hyn y bydd ei angen arnoch chi:
Wraps (i efelychu steil burrito)
Caws Mozzarella
Tsili sych
Nionod
Cabaets coch
Pys melyn
Briwgig eidion
Sudd lemwn
Letys
Hufen wedi suro
Tsili
Llefrith
Pupur a halen
Olew
Coginio:
Tywalltwch olew i badell â thair segment eithaf mawr o garlleg
Coginiwch y cyfan am ryw 2-3 munud
Coginiwch ½ kg o briwgig eidion, a’i gymysgu nes ei fod wedi newid ei liw
Coginiwch y cymysgedd am 15 munud
Tywalltwch 300ml o hufen wedi sawru i bowlen, dwy lwy fwrdd o sudd lemwn, cymysgwch yn dda gyda thair llwy fwrdd o lefrith, a’i gymysgu’n dda eto. Gorffwyswch y cymysgedd am oddeutu 1-2 awr.
Rhowch halen fel y mynnoch ar y briwgig eidion, gyda phedair llwy de o bowdwr tsili, llwy de o tsili sych, tair llwy fwrdd o saws poeth (Sriracha neu unrhyw ddewis arall), tsili, cymysgwch yn dda….
Rhowch lwy fwrdd o sudd lemwn.
Cymysgwch y cyfan yn dda a rhoi’r popty i ffwrdd.
Torrwch hanner cwpan o gabaets coch, letys, pys melyn a nionyn, ychydig o tsilis (os ydych chi ffansi), llwy fwrdd o sudd lemwn, pupur a halen fel y mynnoch. Cymysgwch y cyfan.
Tywalltwch yr hufen wedi’i suro ar y ‘wrap’, a’r briwgig, ynghyd â mozzarella a chaws o’ch dewis, gwasgarwch y salad am ei ben, plygwch y wrap i siâp cwch a gadael y cymysgedd yn agored.
Cynheswch y cyfan mewn padell a thorrwch y cyfan.
Mwynhewch y wledd!