Heidiodd miloedd o bobol i Ŵyl Fwyd Caernarfon dros y penwythnos, wrth i’r trefnwyr addo y byddai “mwy nag erioed ar y fwydlen” eleni.

Yn ychwanegol i’r stondinau bwyd, diod, crefft a chynnyrch lleol, a’r tri llwyfan cerddoriaeth, roedd dwy ardal newydd sbon, sef Pentref Bwyd Môr ac ardal arbennig i deuluoedd yn Dros yr Aber.

Un oedd yn edrych ymlaen at y cyfan yw Nici Beech, cadeirydd Pwyllgor yr Ŵyl Fwyd.

“Mae nifer fawr o deuluoedd yn dod i’r ŵyl felly roedd yn gam naturiol i ddatblygu’r ardal yma yn Parc Coed Helen, dros yr Aber yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus yno ym mis Medi llynedd,” meddai ar drothwy’r digwyddiad.

“Rydan ni wedi ail-leoli lloc anifeiliad Coleg Glynllifon yno ac yn ogystal a stondinau bwyd a diod a bariau. Mi fydd yr ardal yn llawn diddanwch trwy gydol y dydd yng nghwmni staff lleol Yr Urdd a Byw’n Iach. Yn ogystal â hynny bydd, gweithgaredd celf a chrefft a digon o adloniant a cherddoriaeth, gan gynnwys neb llai na Cati a Gruff o griw Cyw!”

Fe fu’r trefnwyr yn cydweithio â’r artist Iestyn Tyne, oedd wedi creu darn o gelf yn cyfleu amrywiaeth yr arlwy.

Roedd Pentref Bwyd Môr yr ŵyl i’w weld am y tro cyntaf eleni yn Cei Llechi, ac wedi’i drefnu mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Prif atyniad yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yng nghanol tref Caernarfon yn flynyddol ers 2016 yw’r bwyd, gyda thros 120 o stondinau bwyd a diod eleni.

Mae’r ŵyl, sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei threfnu’n llwyr gan wirfoddolwyr, hefyd yn dod yn fwyfwy adnabyddus am ei harlwy cerddorol.

Eleni, roedd rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth Gymraeg ar lwyfannau’r ŵyl, gan gynnwys Bob Delyn a’r Ebillion, a Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas.

Roedd blas lleol cryf hefyd gyda pherfformiadau gan fandiau o’r ardal, gan gynnwys Magi Tudur a Geraint Løvgreen a’r Band. Heb anghofio am lwyfan y corau.


Dyma flas o’r ŵyl drwy lens camera Medi Wilkinson, colofnydd golwg360.

Cig Wagyu…

 

… a digon o ddewis o tsili i’w roi ar ei ben

 

Neu beth am rywbeth allan o’r Coconut Kitchen o Gonwy?

 

Ydych chi erioed wedi blasu Wagyu’r Wyddfa, tybed?

 

Tu hwnt i’r bwyd, mae hen ddigon o bethau i’w gwneud yn yr awyr agored…