Mae sioe fawreddog masnach bwyd a diod yn cael ei chynnal dros gyfnod o ddeuddydd yng Nghasnewydd yr wythnos hon.
Bydd cynhyrchion newydd yn cael eu lansio gan gynhyrchwyr Cymreig blaenllaw yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol y ddinas, ac mae disgwyl i ddigwyddiad BlasCymru arwain at filiynau o bunnoedd o werthiant.
Hefyd yn cael eu lansio eleni mae cynhyrchion sy’n gysylltiedig ag enwogion Cymru, megis y gantores Katherine Jenkins, a’r chwaraewyr rygbi Alun Wyn Jones, Mike Phillips, James Hook, Shane Williams, Lee Byrne a Richard Hibbard.
Bydd mwy na 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd gan fusnesau Cymreig yn cael eu harddangos yn BlasCymru/TasteWales, yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.
Digwyddiad sy’n cael ei gynnal bob dwy flynedd ac sy’n cael ei drefnu gan Bwyd a Diod Cymru yw BlasCymru.
Hwn yw’r pedwerydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol i gwmnïau Cymreig.
Bwyd a diod, a chogion arloesol
Gyda miloedd o gyfarfodydd a channoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant o bob rhan o’r byd, mae disgwyl i’r digwyddiad arwain at werth miliynau o bunnoedd i gynhyrchwyr.
Mae’r digwyddiad eleni yn cynnwys rhai o enwogion mwyaf blaenllaw Cymru sydd wedi ehangu i ddiwydiant bwyd a diod cenedl sy’n tyfu, gan gynnwys diod newydd gan gwmni jin Cygnet Katherine Jenkins, a ‘Mimosa Rum Espiritu, rỳm ceirios du sbeislyd a choffi newydd ‘Grand Slam’ gan nifer o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru.
Tu hwnt i hynny, bydd dros 200 o gynhyrchion newydd yn adlewyrchu blasau amrywiol byd coginio arloesol Cymru, gan gynnwys byrgyrs figan, te pefriog, cig carw sych, mêl blodyn yr haul Wcreinaidd, sôs coch garlleg du, picls oergell ciwcymbyr, a llawer mwy.
Mae’r arlwy amrywiol yn rhannol oherwydd mentrau sydd wedi’u rhoi ar waith gan Bwyd a Diod Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, megis eu dull Rhwydwaith Clwstwr sy’n dod â busnesau o’r un anian ynghyd i rannu arfer gorau a datblygu syniadau newydd.
Mae hyn wedi’i hybu ymhellach gan y cymorth sydd ar gael i fusnesau newydd drwy Cywain a’r rhaglen Arloesi Bwyd Cymru.
Cynnyrch carbon niwtral
Un o’r cwmnïau fydd yn y digwyddiad yw Puffin Produce, sy’n arddangos eu ‘Root Zero Baby Potatoes’ carbon niwtral.
Mae Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, yn dweud bod BlasCymru “yn rhoi llwyfan heb ei ail i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynnyrch i’r byd”.
“Mae cymaint o waith da yn digwydd yng Nghymru ac mae ond yn iawn bod y byd yn eistedd i fyny ac yn cymryd sylw,” meddai.
“Yn Puffin, rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y ddegawd ddiwethaf gyda’n tyfwyr, gan gynnwys cyflwyno Cynllun Rheoli Carbon Ffermydd Puffin, sy’n ein galluogi i addasu ein harferion ffermio a chydweithio i fynd i’r afael â’r materion rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ynghylch newid hinsawdd.
“Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater sy’n bwysig i ni, ac mae hynny’n cael ei atgyfnerthu gan ein targedau uchelgeisiol ar draws y busnes, yn fwy diweddar SBTi a’r targedau 2040 Sero Net rydyn ni wedi’u cyflwyno.
“Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy’n cael ei gymryd o ddifri gan ddiwydiant bwyd a diod Cymru yn eang, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i greu cadwyn gyflenwi sy’n fwy ecogyfeillgar.”
‘Stori gref i’w hadrodd a chynhyrchion o’r radd flaenaf i’w gwerthu’
Mae ffigurau gafodd eu cyhoeddi dros yr haf yn dangos bod allforion bwyd a diod o Gymru i farchnadoedd newydd a phresennol wedi tyfu’n gyflymach na gweddill y Deyrnas Unedig, gyda Llywodraeth Cymru yn targedu mwy o farchnadoedd newydd i alluogi’r diwydiant i ffynnu.
“Rwy’n falch o’n diwydiant bwyd a diod amrywiol, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth,” meddai Lesley Griffiths.
“Mae’n wych gweld mwy a mwy o bobol o bob rhan o’r byd yn mwynhau bwyd a diod o Gymru gydag allforion rhwng 2020 a 2022 wedi cynyddu 44% o gymharu ag 16% ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
“Bydd mwy na 200 o gynhyrchion bwyd a diod newydd sy’n cael eu gwneud yng Nghymru yn cael eu harddangos yn BlasCymru/TasteWales eleni sy’n dyst i’r arloesedd, yr ymrwymiad a’r awydd y mae busnesau Cymreig yn ei ddangos o hyd.
“Mae gennym stori gref i’w hadrodd a chynhyrchion o’r radd flaenaf i’w gwerthu.”