Mis Hydref. Tymor yr Oktoberfest – os ydych chi’n hoffi cwrw a cherddoriaeth ‘oompah’.

Yn yr Almaen, bydd criwiau mawr yn heidio i bebyll a thafarndai a neuaddau, gyda galwyni o gwrw yn llifo lawr y lonydd coch; nid yn yr Almaen yn unig erbyn hyn, gyda sawl Oktoberfest yng Nghymru a ledled y byd.

Eto i gyd, mae modd cael gŵyl gwrw hwb fod yn gwerthu’r cwrw Almaenaidd yn unig, ac heb yr ‘oompah’ chwaith.

Mae criw bach o wirfoddolwyr yng Nghwm Tawe wrthi’n gorffen paratoi ar gyfer gŵyl newydd Cwrw Tawe yn Neuadd Les Ystradgynlais, fydd yn digwydd ddydd Gwener (Hydref 20) a dydd Sadwrn (Hydref 21).

“Mae rhai ohonon ni yn yr ardal wedi bod â chwant trefnu gŵyl gwrw ers achau, ac wedi’r Gofid Covid a’r cyfnodau clo ac ati, dyma feddwl ‘Pam ddim, nawr?’ a mynd amdani,” meddai Geraint Roberts, un o’r trefnwyr, wrth golwg360.

“Mae cwrw go iawn wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weld tyrfaoedd yn dod i flasu’r cyrfau gyda ni!”

Pa gwrw fydd ar gael ac o ba fragdai?

Er mwyn cael gŵyl gwrw, rhaid cael y cwrw, wrth gwrs – felly beth fydd ar gael?

“Wel ie, mae dros ugain o gyrfau gyda ni, y rhan fwyaf o fragdai yng Nghymru, ac ambell un o ochr draw Clawdd Offa,” meddai Geraint Roberts.

“Mae sawl seidr cwmni Gwynt y Ddraig ar gael hefyd, a jin o wahanol flasau a ‘phethau bach’ eraill.”

Mae’r farchnad gwrw wedi ehangu’n ddiweddar, ac mae’r ŵyl yn adlewyrchu hyn.

Bydd yno Gwrw Chwerw (bitter), cwryfau Aur a Golau (Golden a Pale Ale), cwrw tywyll (Dark Ale) a stowt, cwrw cyfoethog Almaenaidd ei naws, a chwrw gwenith (Weissbier) hefyd.

Cyrfau o ba fragdai fydd ar gael, felly?

“Chi mo’yn gwybod nhw i gyd? Sefed funud nawr,” meddai Geraint Roberts.

“Mae Grey Trees o Gwm Cynon yn hala dau gwrw; dau arall gan Twt Lol o Drefforest; tri gan Mŵs Piws o ochrau Porthmadog, gan gynnwys eu cwrw Ysgawen braf iawn; a dau gan Fragdy Lleu o Ddyffryn Nantlle; un hydrefol gan y Borough yng Nghastell-nedd.

“Bydd gyda ni Cwrw Teifi gan Mantle o ochrau Aberteifi, a dau o Fragdy’r Mwmbwls o lawr y cwm yma, gan gynnwys steil Almaenaidd ‘Bock’ 6% Oktoberfestaidd iawn, a stowt gyda wystrys!

“Cwrw golau wedyn gan Monty’s o Drefaldwyn.

“O ie! A chwrw Rob ‘9 Lives’ – pedwar math ganddo fe, rwy’n meddwl. Roedd rhaid i ni ofyn iddo fe!”

Cwrw o bell ac o agos

O ble ddaw’r cwrw pellaf, tybed?

“Wel, mae dau gwrw o Ludlow Brewing yn Llwydlo, un cwrw chwerw ac un cwrw coch ond y pellaf, mae’n siŵr, yw cwrw golau cryf Champion IPA o fragdy Only With Love yn Sussex yn Lloegr,” meddai Geraint Roberts wedyn. “Mae hwnna’n addas ar gyfer figaniaid.

“Rwy’n credu bod tri chwrw neu bedwar sy’n addas ar gyfer figaniaid, a dweud y gwir.”

A beth am y cwrw agosaf?

“9 Lives – Ystradgynlais, wrth gwrs!”

Bu’r criw yn ffodus iawn o allu galw ar wybodaeth a brwdfrydedd Rob Scott o fragdy 9 Lives yn Ystradgynlais.

Gan ddechrau drwy fragu ambell i gasgen ar gyfer tafarn y Wern Fawr yn Ystalyfera, erbyn hyn caiff cwrw y bragwr o Ynys Manaw ei yfed ar draws ynysoedd Prydain.

Yn ogystal â chyrfau chwerw, golau a thywyll, bydd Rob Scott yn dod â chasgennaid o’r cwrw gwenith Witty Kitty gydag e.

Twt Lol

Cafodd cwrw bragdy arall sylw yn Golwg yn ddiweddar.

Bydd Twt Lol o Drefforest yn anfon bob o gasgen o Bewin Ynfytyn a Blŵbri at y Neuadd Les.

“Rydyn ni’n falch o weld mwy a mwy o bobol yn yfed cwrw go iawn y dyddiau hyn,” meddai Phil Thomas o’r bragdy.

“Mae gwyliau fel hyn yn ffenest siop i’n cwrw ni, ac i bob mathau o gwrw, a dweud y gwir.

“Dw i’n siŵr y byddan nhw’n cael penwythnos arbennig o yfed cwrw arbennig.”

Y Gymraeg yn ganolog i’r ŵyl

Tiwtor Cymraeg i Oedolion yw Geraint Roberts, felly does dim syndod fod y Gymraeg yn ganolog i’r ŵyl.

Bydd sesiwn sgwrsio ‘Cwrw a Clonc’ nos Wener, cyn i gêm gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd gael ei dangos ar sgrin fawr sinema’r Neuadd Les am 8 o’r gloch.

A bydd cyfle i flasu gwahanol gyrfau gydag arweiniad yn Gymraeg brynhawn Sadwrn am 2 o’r gloch.

Mae’r trefnwyr yn awyddus iawn i hybu economi’r ardal.

Gan hynny, bydd croeso i fynychwyr Cwrw Tawe ddod â chludfwyd o fwytai’r ardal gyda nhw i’r ŵyl, ac i’w fwyta gyda pheint neu ddau.

“Mae’r Neuadd Les yn ganolog iawn i fywyd yr ardal yma,” meddai Geraint Roberts.

“Mae’n cynnal pob mathau o gyngherddau a digwyddiadau ac ymarferion, a nawr bydd gŵyl gwrw gyda ni hefyd.

“Ni mo’yn gweld pawb yn joio, a ni am i bobol newydd ddod i weld ein hardal ni hefyd.

“Cwpwl o beints, neu gwpwl o haneri; tamaid o fwyd a llawer o gymdeithasu.

“Pwy a ŵyr, ambell i gân hefyd?”