Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn paratoi ar gyfer Angua 2023, sef prif ffair fasnach bwyd a diod y byd.

Byddan nhw’n arddangos eu cynnyrch i brynwyr, ac yn ceisio sicrhau bargeinion allforio newydd.

Bydd Anuga 2023, fydd yn cael ei chynnal rhwng Hydref 7-11 yn Köln yn yr Almaen, yn gartref i fwy na 7,400 o arddangoswyr o dros 100 o wledydd, gan ei wneud yn llwyfan delfrydol i gwmnïau Cymreig ehangu eu cyrhaeddiad byd-eang, a chyflwyno’r byd i’r ansawdd eithriadol o fwyd a diod sydd gan Gymru i’w cynnig.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, y cynhyrchwyr fydd yn chwifio baner Cymru yn y digwyddiad eleni fydd:

  • Cradoc’s Savory Biscuits Ltd
  • Ferrari’s Coffee
  • The Lobster Pot
  • Dŵr Tŷ Nant
  • Hilltop Honey
  • Trailhead Fine Foods Ltd
  • Get Jerky
  • Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig
  • Edwards, Y Cigydd Cymreig
  • Dundeis
  • Hufenfa De Arfon

Bydd stondin Cymru yn Anuga yn y Neuadd Bwyd Gain 10.2 | Stondin: F051.

Beth sydd ar y gweill?

Mae’n argoeli i fod yn fwrlwm o weithgarwch, gyda sesiynau blasu a chyfleoedd i gwrdd â’r cynhyrchwyr angerddol tu ôl i’r cynhyrchion eithriadol hyn.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i brofi blasau Cymru ac archwilio’r straeon tu ôl i’r cynhyrchion.

Hefyd yn bresennol yn Anuga, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fydd:

  • Brain Blasterz (Neuadd 3.1 Stondin: D039)
  • Eatlean (Neuadd 10.1 Stondin: G018a)
  • Hybu Cig Cymru (Neuadd 06, Plaen: Rhes 1: D, Stondin: 040)
  • Cwmni Caws Eryri (Neuadd 10.1 Stondin: G010a)

Mae Anuga yn gyfle amhrisiadwy i gwmnïau Cymreig gysylltu â dosbarthwyr, adwerthwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o bedwar ban byd.

Gall yr amlygiad rhyngwladol yn Anuga fraenaru’r tir ar gyfer mwy o allforio a chydweithio fydd yn cryfhau enw da byd-eang cynhyrchion bwyd a diod o Gymru.

“Y lefelau uchaf erioed” o allforion bwyd a diod

Yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru, “mae Anuga 2023 yn gyfle gwych i’n busnesau bwyd a diod Cymreig gwych arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel i brynwyr o bedwar ban byd”.

“Mae ein hallforion bwyd a diod ar y lefelau uchaf erioed, ac mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig i helpu pobol dramor i fwynhau bwyd a diod o Gymru,” meddai.

“Rwy’n falch o waith caled, ymrwymiad ac awydd busnesau Cymru a dymunaf ddigwyddiad llwyddiannus iawn i bawb sy’n teithio i’r Almaen ar gyfer Anuga 2023.”

Yn unol â’r duedd o dwf mewn allforion bwyd a diod o Gymru, mae Cradoc’s Savory Biscuits Ltd yn parhau i yrru twf allforio yn Ewrop er gwaethaf Brexit.

“Gwnaethon ni fynychu SIAL Paris yn 2022 a dyblu ein hincwm allforio gydag ymateb cadarnhaol iawn,” meddai Allie Thomas, sylfaenydd y cwmni.

“Ein targed nesaf yw Anuga gyda Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n awyddus i sefydlu perthynas â mewnforwyr newydd sydd eisoes yn cyfanwerthu ein cynnyrch, cwrdd â chwmnïau sy’n chwilio am fwydydd crefftus cain i’w cwsmeriaid yn ogystal ag arddangos ein pecynnau newydd, cynhyrchion newydd a rhannu ein statws cynaliadwyedd a sero net.

“Wnawn ni ddim gadael i’r ffaith ein bod yn gwmni crefftus bach leihau ein huchelgais.

“Mae ein hymrwymiad i greu bisgedi sawrus unigryw a blasus gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau wrth wraidd yr hyn a wnawn.

“Mae Anuga yn gyfle rhyfeddol i arddangos yr ansawdd a’r arloesedd tu ôl i’n cynnyrch, o’n cracers Ceirch Cymreig i’n cyfuniadau blas Asiaidd egsotig.

“Rydyn ni eisiau gweithio mor galed ag y gallwn i ddyrchafu Cradoc’s, gan gyflwyno ein cwmni bach i farchnad fyd-eang.”

Pysgod cregyn byw a chig Cymreig

Un o’r cwmnïau eraill sy’n arddangos yn Anuga yw The Lobster Pot, sy’n cyflenwi pysgod cregyn byw o’r safon uchaf o ffynonellau cynaliadwy.

“Rwy’n llawn cyffro ac yn edrych ymlaen yn fawr at Anuga,” meddai Julie Hill o’r cwmni.

“Dyma fydd y tro cyntaf i ni arddangos yn y digwyddiad hwn.

“Fel arfer byddwn yn mynychu’r sioeau bwyd môr yn hytrach na’r sioeau bwyd, ond mae’r Almaen yn farchnad nodedig sy’n absennol o’n rhestr hir o farchnadoedd allforio, a theimlwn fod hwn yn bendant yn gyfle gwerth ei archwilio.”

Mae Edwards, y Cigydd Cymreig yn mynychu Anuga am y tro cyntaf fel rhan o raglen cymorth allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.

Nid yn unig maen nhw’n bwriadu cwrdd â chwsmeriaid masnach ryngwladol, ond hefyd dangos sut y gallan nhw ychwanegu gwerth fel brand premiwm.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru sy’n mynd i Anuga 2023,” meddai Laura Jones, Rheolwr Brand Edwards, y Cigyddion Cymreig.

“Mae gan Edwards, y Cigydd Cymreig draddodiad balch o greu cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel sydd wedi ennill gwobrau, ac rydyn ni’n awyddus i rannu ein hangerdd am fwyd Cymreig gyda chynulleidfa fyd-eang yn y digwyddiad mawreddog hwn.

“Mae Anuga yn cynnig llwyfan unigryw i ni arddangos ein hamrywiaeth o gynnyrch, o’n selsig i’n cigoedd blasus.

“Edrychwn ymlaen at ffurfio partneriaethau newydd gyda dosbarthwyr a chyfanwerthwyr cig sydd â diddordeb mewn rhestru detholiad manwerthu ein brand o Borc Tractor Coch a Chig Eidion Cymru PGI.”

Cyrhaeddodd gwerth allforion diwydiant bwyd a diod Cymru i’r Undeb Ewropeaidd £594m, sy’n gynnydd o £130m ers 2021.

Roedd allforion bwyd a diod i’r Almaen werth £51m yn 2022.

Cynyddodd allforion £7m o 2021, a £12.6m ers 2016.