Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y gogyddes ac awdur Blas, Lisa Fearn, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n byw yng Nghaerfyrddin lle mae hi’n rhedeg ei hysgol goginio a garddio a chaffi Y Sied…
O’n i’n arfer dwli ar frechdanau jam ac ro’n i’n mynd a nhw i’r ysgol bob bore. Dw i ddim yn siŵr pam – falle o’n i ddim yn bwyta brecwast felly o’n i wastad yn cael mynd a brechdan jam efo fi. Dw i’n cofio perthynas yn dod lawr i aros a’r enw wnaeth hi roi i fi oedd Lisa Jam.
Doedd Mam erioed wedi bod yn un am goginio lot ond roedd Mam-gu yn licio gwneud cacennau a chawl. Roedd ganddi Raeburn hen ffasiwn ac roedd wastad rhywbeth yn berwi arno. Roedden ni’n cael lot o fwyd traddodiadol – pethau fel cinio dydd Sul, llysiau, cig, grefi. Dw i erioed wedi bod yn un am bwdin.
Pan o’n i tua 13 oed fi fyddai’n coginio fel arfer i’r teulu cyfan. Gan fod Mam ddim yn hoff o goginio, ro’n i’n penderfynu beth oedden ni’n cael i swper. Ro’n i’n gneud pethau fel peis, pysgod a sglodion, cyw iâr efo hufen a chennin, pethau cartrefol a gweddol rad. Roedd Mam yn mynd a fi i’r siop a fi’n prynu beth oedd angen a dod ’nôl i goginio.
Pan es i i’r brifysgol a gorfod coginio i fi’n hunan, wnes i arbrofi lot efo bwydydd llysieuol. Ro’n i mewn prifysgol lle oedd y bwyd ddim yn sbeshial so es i’n veggie am ddwy flynedd er mwyn cael bwyd gwell!
Ar ôl priodi a chael fy nghegin gynta’ wnes i ddechrau mwynhau arbrofi efo bwydydd gwahanol. Wnes i symud bant i Reading i weithio ac roedd lot o wahanol fwydydd ar gael yno a mwy o ddewis.
Os dw i moyn rhywbeth cloi mi na’i wneud Dahl. Dw i licio defnyddio lentils a sbeisys fel tyrmerig a cwmin, maen nhw’n sbeisys sy’n rhoi cysur. Mae Dahl yn dda i’r stumog hefyd. Dw i’n ei fwyta efo reis ac iogwrt ar y top, hyfryd.
Dw i’n licio bwyta mewn llefydd sydd â stori tu ôl iddyn nhw. Dw i’n teimlo bod hynny’n ychwanegu at y profiad i gyd. Un o fy hoff lefydd ydy’r bwyty Indiaidd Dishoom yn Llundain. Mae eu stori nhw am ddod draw o Bombay yn wych, ac maen nhw wedi creu awyrgylch ffantastig. Mae’n fwy na jest platiad o fwyd.
Dw i’n licio bwydydd yn eu tymor. Dw i erioed wedi coginio pysen achos dw i wastad yn bwyta nhw yn yr ardd cyn bo nhw’n cyrraedd y gegin!
Dyma fy rysáit ar gyfer Dahl efo ffacbys:
Cynhwysion
1 cwpan o ffacbys coch, wedi eu rinsio
1 llwy fwrdd o olew llysiau, ar gyfer ffrio
½ llwy de o hadau cwmin neu cwmin wedi ei falu
1 winwnsyn wedi ei dorri’n fân
½ i 1 tsili (gewch chi benderfynu!) wedi ei dorri’n fân a’r hadau wedi eu tynnu
2 ewyn garlleg wedi’u sleisio’n denau
2cm o sinsir ffres, wedi ei blicio a’i gratio neu wedi’i dorri’n fân
½ llwy de o tyrmerig wedi’i falu
½ llwy de o paprika
¾ llwy de o halen a phupur du wedi’i falu
1 tun o domatos wedi’u torri neu sawl tomato ffres wedi’u torri’n fân
Hyd at 1 litr o stoc llysiau
Sudd hanner lemwn
Dail coriander wedi’u torri i addurno
Dull
Cynheswch yr olew mewn padell fawr dros wres canolig. Ychwanegwch y winwnsyn, y tsili, garlleg a’r sinsir a’u coginio am 4 i 5 munud, nes bod y winwns yn meddalu. Ychwanegwch y tyrmerig, y paprika a’r cwmin. Ychwanegwch halen a phupur. Ychwanegwch y corbys, a 3 cwpan o stoc llysiau. Trowch a gadewch i’r ffacbys goginio yn y stoc, ychwanegwch fwy o stoc os bydd y gymysgedd yn mynd yn rhy sych. Blaswch ac ychwanegwch fwy o halen os oes angen. Addurnwch gyda choriander a gweinwch gyda reis. Gallwch ychwanegu mwy o gynhwysion fel pupur coch, cêl neu sbigoglys. Ychwanegwch y pupur gyda’r winwnsyn, neu trowch y sbigoglys neu’r dail cêl drwy’r Dahl ychydig funudau cyn ei weini. Ar gyfer Dahl mwy hufennog, ychwanegwch dun o laeth cnau coco, a gadewch iddo fudferwi am ychydig funudau.