Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y soprano Rhian Lois sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Maen hi’n dod o Bont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Llundain…

Un o fy atgofion cynta’ ydy bwyta ham a chips a sos coch gyda Rhys, fy mrawd, a Swperted ar y teledu yn y cefndir… a hefyd te mam-gu Dôlarthur ar ôl diwrnod yn yr ysgol. Ro’dd hi’n tynnu’r stops mâs i gyd!

Rhian Lois gyda’i brawd Rhys

Roedd Mam wastad yn coginio bwyd cartref felly dw i wedi fy nghodi yn gweld Mam yn coginio a dw i nawr wrth fy modd yn coginio i’r teulu a ffrindie. Dw i’n berson sydd yn bwyta yn weddol iach. Bwyd yw un o’n hoff bethe yn y byd. Dw i’n byw i fwyta! Felly dw i’n bwyta’n iachus gyda digon o falans. Ond dw i’n dwli ar gael mynd allan i gael pryd o fwyd a thrio bwydydd gwahanol.

Os yw bywyd yn brysur neu os dwi angen cysur dw i’n troi am y carbs. Peidiwch sôn am crisps, dyna fy ngwendid! Truffle crisps, a phasta yn bendant. A s’dim byd fel paned o de i wneud popeth yn ok!

Yn bendant, y pryd bwyd gorau i fi gael erioed oedd yn Le Chantecler, bwyty 2 seren Michelin yn Nice, Ffrainc.  Es i ar wylie yno gyda Mam a Dad a dyma ni’n mynd am bryd o fwyd oedd fel bod mewn theatr. Roedd yr holl bryd yn theatr a gweud y gwir, o’r Champagne ar ddechre’r noson i’r briwsionyn olaf un! Dw i’n lwcus iawn yn byw yn Llundain gan fod bwyd gwych yn bobman. Dw i’n dwli mynd am bryd o fwyd gyda Jo, y gŵr, i drio prydau newydd. Un o’r prydau gorau oedd y torbwt yn Brat [bwyty’r cogydd Tomos Parry] yn Llundain.

Rhian Lois yn cael torbwt ym mwyty Brat yn Llundain

Alla’i ddim canu ar stumog lawn. Pan dw i’n perfformio dw i’n cael pasta amser cinio, wedyn coffi bach a snac rhyw awr cyn canu. Dw i hefyd yn yfed Lucozade Sport weithie ac yn cadw losin arna’i ar y llwyfan. Os oes yna saib ar y llwyfan i fi, dw i’n troi rownd ac yn bwyta’r switsen er mwyn dod a dŵr i’r geg!

Fy hoff lyfr coginio yw Nigella Express, sy’n llawn ryseitiau rhwydd a hynod flasus. Ond fy hoff lyfr coginio os y’n ni’n cael dinner parties yn y tŷ yw llyfr coginio Ottolenghi Simple. Mae’r bwyd ar blas yn gwbl wych.  Dw i wastad hefyd yn troi at fy nghinio rhost gyda thatws saim gŵydd. YUM!

Rhian Lois gyda’i gwr Jo

Bydd Rhian Lois yn canu rhan y soprano yn y Faure Requiem gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn, Abertawe heno (nos Sadwrn, 11 Chwefror) a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Sul (12 Chwefror).  

 Bydd hi hefyd yn chwarae rhan Juliette yn opera Erich Korngold ‘The Dead City’ (Die tote Stadt) gyda’r ENO sy’n agor ar Fawrth 25.