Ydach chi’n cofio Toast Toppers neu Arctic Roll? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr actores Sharon Morgan sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd…
Fi’n cofio’n glir iawn eistedd mewn cadair plentyn a ro’n i’n sugno ar golwythen cig oen. Alla’i dastio fe nawr. Yn tŷ Mam-gu o’n i a fuon ni mond yn byw yno am gyfnod cyn symud rhwng tai felly ryw ddwy neu dair oed o’n i ar y pryd, yn ifanc iawn. A dw i dal yn licio grefi. Roedd Mam-gu yn gogyddes dda; yn byw ym mhentref glofaol Glynaman [Sir Gaerfyrddin] a glöwr oedd fy Nhad-cu. Doedd dim lot o arian ond roedd ei bwyd hi wastad yn hyfryd.
Ges i’n magu yn y 50au a’r 60au a bwyd plaen iawn oedd e adeg hynny a bwyd plaen dw i’n mwynhau bwyta nawr ond llawer iawn mwy iach, llawer mwy o salads a ffrwythau. Dw i’n bwyta ffowlyn a physgod ond dw i bron yn llysieuwraig, dw i’n hoffi cawl llysiau efo ffa, a salad mawr efo cnau a hadau, a phethau felly. Dw i wedi cymryd diddordeb mewn bwyta’n iach erioed a dweud y gwir. Ond roedd y bwydydd o’n i’n bwyta adeg ‘ny, a’r argaeledd, doedd dim hanner cymaint o ddewis. Dw i’n cofio adeg Dolig cael tanjerin yn yr hosan Nadolig gan Siôn Corn a dyna’r unig adeg fydden ni’n cael tanjerin rownd y flwyddyn. Mae’n wahanol iawn.
Doedd Mam a dim diddordeb mewn coginio o gwbl, doedd ganddi ddim amynedd gydag unrhyw beth domestig oedd yn ffantastig rili ac yn rôl model gwych i fi achos dw i hefyd yr un peth – dim diddordeb mewn pethau domestig. Ond dw i’n cofio, pan fydden i’n dod adre o’r ysgol, cael coco o flaen y tân yn y gaeaf ac roedd yna lot o gysur i gael. Ar bnawn dydd Sul yn aml bydden ni’n cael tost a jam ac o’n i ‘di crasu’r tost ar fforc o flaen y tân wrth wylio hen ffilmiau du a gwyn Fred Astaire a Ginger Rogers.
Amser cinio dydd Sul fi i oedd wastad yn gwneud y tato potsh, a bydden i’n dweud bod y pethau yma i gyd yn bethau cysurlon o hyd – y tato potsh, a thost a jam. Ac oedden i’n dwli ar ginio ysgol, yn enwedig y sbynj efo cwstard pinc – oedd hwnna’n anhygoel. Pan oedd Mam yn gwneud teisennod ro’n i a mrawd yn cael llwy de wedyn ac yn llnau’r basn a dw i’n siŵr oedd hi’n gadael eitha’ lot o’r gymysgedd ar ôl i ni. Roedden ni bron yn mwynhau hynne yn fwy na’r deisen! Peth arall oedd Mam yn gwneud i ni oedd Angel Delight. O’n i’n hoffi hwnna ond doedd y pethau yma ddim yn dda i chi.
Fi’n cofio trip ysgol yn Llydaw a chael hufen iâ pistachio ar y traeth. A dw i’n cofio cael iogwrt Groegaidd a mêl ar y traeth yn Lindos, a bagel yn Montreal – ond yr achlysur yw e a’r bwyd yn digwydd bod yn rhan o hynne…
Oedd cyris yn beth newydd iawn pan o’n i’n tyfu lan. Pan o’n i’n fyfyrwraig yn y brifysgol yng Nghaerdydd oeddan ni’n mynd i City Road i gael cyri. Mae cyris wastad yn atgoffa fi o nosweithiau gwyllt…
Fi’n trio osgoi gwneud bwyd i bobl eraill! Does dim lot o amser gyda fi i hala yn coginio. Be y’ fi yn gwneud yw cramwyth [crempogau] gyda chaws ynddyn nhw a llysiau erbyn hyn, a hefyd cramwyth gyda siwgr. Mae hynna’n rhywbeth dw i’n mwynhau gwneud weithiau pan mae’r plant yn dod draw. Wnes i brynu llyfr Susan Campbell a Caroline Conran, Poor Cook, blynyddoedd maith yn ôl sy’n dangos i chi sut i wneud bwyd o wahanol gynhwysion ond yn rhad. A wnes i brynu Every Day Cook Book gan Marguerite Patten – achos bo fi ddim wedi coginio ar wahân i wneud tato potsh ac ambell i Victoria sbynj o’n i ddim yn coginio adre o gwbl. Wnes i brynu hwnne er mwyn dysgu pethau hollol elfennol achos, wrth gwrs, gyda phlant mae rhaid i chi ffeindio tri phryd bwyd bob dydd trwy’r flwyddyn. Mae’r llyfrau dal gyda fi ac yn cwympo i bishys erbyn hyn.
Dw i’n bwyta mas yn achlysurol ond dim mor aml â hynna. Dw i’n digwydd byw yn Pontcanna ochr draw i Thomas by Tom Simmons. Bydda’i yn mynd yna weithiau ond mae’n ofnadwy o ddrud, wrth gwrs. Ond y cinio delfrydol ydy cinio dydd Sul adre gyda’r teulu.
Ma’ siŵr bod fy ffordd i o fwyta yn wahanol iawn, iawn i Elinor [y cymeriad mae Sharon Morgan yn chwarae yn y gyfres] yn Yr Amgueddfa. Fi’n meddwl byddai hi byth bron yn bwyta yn y tŷ ac yn mynd allan i lot o fwytai gwahanol, ac yn mynd i un Tom Simmons bob yn ail ddydd. Dw i’m yn gwybod os bydde hi’n mwynhau tost a jam!
Bydd Sharon Morgan i’w gweld yn yr ail gyfres o Yr Amgueddfa, Nos Lun, 26 Rhagfyr 9pm, S4C
Mae ei llyfr Actores a Mam – Hunangofiant Sharon Morgan wedi ei gyhoeddi gan Y Lolfa.