Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr artist a ffotograffydd Elin Vaughan Crowley, sy’n byw ger Machynlleth, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Dw i ddim yn sicr o fy atgof cyntaf ond mae gen i lawer o atgofion am fwyd… Dw i’n cofio cymysgu llwyth o gynhwysion afiach mewn bowlen i neud ‘diod hud’ a’i yfed efo fy mrawd Einion. Dw i ddim yn cofio yn union beth oedd yn y diod ond pethau fel sos coch, sudd oren, llaeth, jam, pethau oedd yn afiach gyda’i gilydd. Dw i’n cofio hoffi marjarin ‘Gold’ a mynd i’r oergell i’w fwyta ar ben i hun, ac weithiau ei gymysgu efo ychydig o siwgr, fel dechrau cymysg cacen!

Dw i’n cofio bwyd Nain Brynmeurig, Winnie. Roedd Nain yn gallu neud tarten afal efo’i llygaid ar gau, ac mi fyse hi’n neud un mewn chwinciad os oedd pobl yn cyrraedd. Roedd wastad bwyd ar gael yn Brynmeurig, cig moch, wyau, bara ffres, menyn ‘deche’, cacen neu darten, a phopeth yn blasu’n fendigedig. Pan symudodd Nain o’r ffarm i bentre Cemaes, roedden ni’n arfer mynd yno o’r bys ar ôl ysgol uwchradd. Fel arfer y peth cyntaf oedden ni’n cael oedd doughnut efo cwstard. Mi fyse hi’n deud: “Paid â neud y gwaith cartre’ na wan, tyd i fyta”.

Roedd Mam yn un da iawn am neud cinio Dydd Sul ar ôl i ni fod yn ysgol Sul, ac roedden ni’n hoffi’r rwtin o gael cinio, yna ymlacio ar y soffa trwy’r pnawn fel arfer yn gwylio motor-beics neu Formula 1!

Roedd cael picnic o’r bŵt yn beth cyffredin iawn pan oedden ni’n fach. Oedden ni bob amser yn neud picnic lle bynnag oedden ni’n mynd a stopio mewn layby i’w fwyta. O’n i wrth fy modd yn iste yn y bŵt yn byta!

Picnics yn bŵt y car

Roedd Dad yn bysgotwr a lle bynnag oedden ni’n mynd ar wyliau, roedd wialen yn y car. Mae gen i lawer iawn o atgofion o eistedd ar ochr afon yn aros, ac un tro tra roeddem yn County Durham fe gwympes i mewn pan oedden ni’n ganol unlle, ac ynghanol y panig gwaeddodd Dad: “Tra ti ‘na, edrych os oes ‘na bysgod!”. Mae gen i atgofion da o Dad a’i ffrind Joules yn pysgota yn Ynys Manaw lle roedden ni’n hoffi mynd i wylio’r Grand Prix, a chael pysgod ffres wedi eu coginio ar y traeth yno.

Elin Vaughan Crowley yn dal pysgodyn

Mae mam yn giamstar ar neud Quiche. Ar adegau mawr bywyd, fel cael babi, mae ’na quiche yn glanio yn y gegin gan Mam. Os dw i’n cael cyfnod prysur a ddim adre i goginio, mae Quiche yn ymddangos. Dw i’m yn sicr beth ydy ei chyfrinach hi ond maen nhw’n flasus dros ben a dw i methu neud un cystal er bo fi wedi trio!

Un o’n ffefrynnau gan Mam pan fyddwn yn cael achlysur teuluol neu dros Dolig ydy’r ‘Galaxy Cheescake’. Mae hi wedi etifeddu’r rysáit o gaffi yn yr ardal sydd bellach wedi cau. Ar y pryd roedd y rysáit yn gyfrinach fawr gan fod o’n denu pobl i’r caffi, ac fe lwyddodd Mam i gael copi gan y perchennog. Felly, dw i’n ansicr a ddylwn i rannu hwn [isod], ond mi na’i roi pleser mawr i lawer iawn o bobl gobeithio!

Mae dylanwadau cynnar fy mywyd gyda bwyd yn golygu fy mod i wrth fy modd yn eistedd o amgylch y bwrdd bwyd gyda llawer o bobol, fel oedden ni arfer gwneud. Dw i’n caru bwydo pobl a chael pawb at ei gilydd, sgwrsio, chwerthin, dal i fyny a chlywed y plant yn clebran efo’u ffrindiau a byta llond eu boliau. Mae hyn yn bwysig iawn i fi a dw i’n gwneud yn siŵr ein bod ni fel teulu yn eistedd lawr efo’n gilydd bob nos (er nad oedd hynny’n hawdd bob amser pan oedd y plant yn llai ac yn dianc!). Fe wnes i selio fy arddangosfa gradd ar y weithred o eistedd wrth y bwrdd bwyd. Fe wnes i recordio’r sgyrsiau ar ddyddiau Sul a Nain yn chwerthin wrth y bwrdd. Mae’n hyfryd cael y recordiadau yna a chofio ei llais.

Y teulu o amgylch y bwrdd bwyd yng nghartref Elin ar ddydd Nadolig

Peth arall de ni’n hoffi neud llawer iawn rŵan ydy bwyta tu allan wrth y llyn acw, mae’r plant wrth eu boddau yn neidio fewn a ni’n cael barbeciw, cwrw bach a marshmallows ar y tan i orffen. Aethon ni ar wyliau beicio yn yr Eidal yr haf yma. Roedd cael bwyd mewn caffi ar ben y mynydd yn Morzine ar ôl diwrnod o feicio yn fendigedig.

Magi, merch Elin Vaughan Crowley, yn mwynhau pasta yn yr Eidal

Byddai fy mhryd delfrydol yn fwyd amrywiol sy’n dod dros gyfnod hir, mewn lleoliad naturiol prydferth, gyda gwin i gyd-fynd! Dw i’n cofio ymweld a bwyta Jamie Oliver yn Watergate Bay, Cernyw, ac eistedd yn gwylio’r môr tra’n bwyta bwyd bendigedig a chael gwin i gyd-fynd, mi roedd yn brofiad arbennig.

Dw i ddim yn ffysi, a dw i’n agored i drio bwydydd newydd, felly byddai taster menu o unrhyw fath yn siwtio! Er, deud hynny, dw i’n hoff iawn o fwyd Siapaneaidd fel sushi, sy’n teimlo’n iach ac yn hollol flasus. Dw i’n trio bwyta mor iach â phosib er fy mod yn cael fy nhynnu at y bwydydd melys, ond dw i’n coelio bod cael chydig bach o bopeth yn gymedrol yn iawn i fi os byddai’n ymarfer corff yn rheolaidd. Mae’r pleser o flasu pethau hyfryd yn dda i ni dw i’n credu. Ac, heb os, mi fyswn yn hapus iawn i gael cinio dydd Sul unrhyw ddydd o’r wythnos.

Bwyd sy’n dod ag atgofion da ydy doughnuts yn yr Eisteddfod bob blwyddyn, a phan fydda’i yn yr Eisteddfod rŵan yn pasio’r stondin doughnuts, dw i’n cael teimlad hyfryd. Hefyd, cael hufen iâ yn Aberdyfi neu Hufen iâ Mel o Dywyn efo siocled a chnau ar ei ben.

Pan fydd ffrindiau yn dod draw mi fydda’i fel arfer yn coginio darn mawr o gig oen (dw i’n cael fy nghig oen o Cig Oen Mawddwy, Llanymawddwy), ei goginio yn ara’ deg a’i fwyta gyda pitta bread, salad amrywiol ffres, cous cous, a wedges cartref yn defnyddio tatws o’r ardd. Ac i orffen crymbl afal a mwyar duon wedi eu casglu. Dim byd cymhleth, jest bwyd da yn defnyddio cig lleol a digon ohono.

Dw i’n mynd syth am y Marmite ar ôl noson allan. Marmite a chaws a’r dost efo paned o de ydy’r ffefryn.

Rysait ‘Galaxy Cheescake’

Ar gyfer y gwaelod

3 owns o fenyn

8-10 bisged Digestive wedi’u torri’n fan

Ar gyfer y top

7 owns o gaws meddal fel Philadelphia

4 owns o siwgr man

300ml o hufen chwipio

Hanner bar mawr o Galaxy

2 owns o gnau Ffrengig [walnuts]

Dull:

(Ar gyfer y gwaelod) Toddwch y menyn, ychwanegwch y bisgedi. Rhowch mewn tun crwn wedi’i iro a’i wasgu i lawr cyn ei oeri yn yr oergell.

Ar gyfer y top:

Cymysgwch y caws a’r siwgr. Mewn bowlen arall chwipiwch yr hufen. Toddwch y siocled. Cymysgwch y siocled gyda’r hufen ac ychwanegu’r cnau. Ychwanegwch y gymysgedd hufen i’r gymysgedd gaws.

Rhowch yn y tun a’i rewi. Tynnwch allan o’r rhewgell tua 2 awr cyn bwyta.