Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Menna Elfyn, sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Mae’n debyg mai jeli coch ydy fy atgof cyntaf o fwyd. Bob tro y gwelwn jeli coch roedd fy meddwl yn troi fel jeli. Am flynyddoedd doeddwn i ddim yn deall pam ond dywedodd fy mam wrthyf mai dyna a gawn yn gyson yn ysbyty Cas-gwent pan oeddwn yn byw yno am yn agos i dair blynedd yn cael llawdriniaethau di-ri ar nam geni ar fy moch (o ddeunaw mis oed nes ow’n i’n dair a hanner).

Roedd mam yn hoff iawn o goginio a’i chacennau yn chwedlonol o gyfoethog. Yn aml pan holem beth oedd enw’r gacen byddai’n eu henwi yn  ôl ei mympwy – cawsom gacen Patagonia unwaith a phawb yn ei holi wedyn sut oedd cael y rysáit. Gwenu yn gellweirus a wnâi. Ac eto, bwyd syml a gawn bob dydd ac roedd mam-gu yn byw gyda ni hefyd felly roeddem yn deulu o chwech, ac mi awn adre o’r ysgol uwchradd i gael cinio bob dydd ym Mhontardawe. Roedd bwyd wastad ar y ford yn barod. Yn anffodus, ddysges i ddim sut oedd coginio nes imi adael coleg.  Yr unig ddyletswydd a gofiaf oedd yr un ar ddydd Sul pan fyddai mam yn gofyn imi “droi’r grefi” achos dyna’r unig beth y credai y gallwn ei wneud heb losgi’r tŷ’n ulw. Sgwennes gerdd am “droi’r grefi”, er heb weld golau dydd eto! A dw i braidd yn gwneud grefi y dyddie ‘ma – mae’n haws peidio.

Yr unig bethau yn yr oergell sydd wastad yna yw pecorino, iogwrt plaen, a sialóts. Yn y cypyrddau sych mae gwahanol fathau o pastas a reis o bob math. Mae taflu pasta i ddŵr berwedig gyda thwtsh o olew yn ddigon syml – digon o bupur du, pecorino a dyna ni. Mae’n gwneud pryd – er rwy’n amau a fyddaf yn dilyn awgrym Nigella o roi menyn cnau arno!

Y pryd delfrydol mae’n debyg yw lle bwyta ‘Y Polyn’ ar gyrion Caerfyrddin.  Rydym fel teulu yn gwneud dathliad blynyddol cyn y Nadolig i fynd yno. Dw i erioed wedi cael pryd yno nad yw’n ogoneddus. Yn anffodus, siwrne y flwyddyn yr af yno. Os wy’n lwcus caf wahoddiad arall annisgwyl.

Dw i ddim yn or-hoff o fwytai mewn gwirionedd, na thafarndai. Mae cael llonyddwch rhag torf yn gwneud imi fwynhau ambell bryd o bysgod a sglods yn fwy, sef y tu allan – ac mae Pwllgwaelod yn fendigedig bob amser yn yr haf ac yn gwneud pryd syml yn wledd. Yna cerdded i Gwm yr Eglwys ar y llwybr – beth sy’n well na hynny?

Dw i ddim yn un sy’n cael hangofyr!  Siampaen yw fy hoff ddiod ond allwch chi ddim yfed siampaen ar ras, na Cava ychwaith.  A dyna’r unig ddiod rwy’n ei hoffi er, yn ddiweddar, rwy wedi mwynhau’r Gin heb alcohol sydd ar gael bellach. Mae sawl cwmni da yn ei wneud, a dw i’n credu bod cwrw di-alcohol yn llawer neisiach, fel Peroni neu Erdinger i dorri syched.

Rwy wrth fy modd yn gwneud tost Ffrengig – curo wy a’i guddio drosto ar ôl hanner tostio. Yna i’r badell ffrio nes ei fod â lliw ambr hyfryd ac arllwys sudd masarn drosto hefyd, gyda banana neu afal wedi ei dafellu.

Sdim rysáit neilltuol gen i ond rwy’n hoffi pysgod – yn fawr – a gwneud paella. Unwaith eto, mae taflu cynhwysion i mewn gyda physgod o bob math yn hyfryd.  Fy hoff bryd bwyd yw cregyn bylchog gyda chorizo – mae’r olaf, wrth ymuno â’r pysgod, yn rhoi sudd hyfryd i’r saig ac mae bara wedyn yn amsugno’r cyfan. Bendigedig yn wir… ychydig o salad roced wrth ei ymyl. Perffaith. Rwy’n un o’r ‘tofu-eating wokerati’ (chwedl Suella Braverman) ac yn dwlu ffrio toffŵ gan daenu marmalêd da (chwerw) drosti gyda shibwns a corjet – pryd sydyn cyflym, bendigedig.

Roeddwn ar un adeg yn ceisio gwneud rhyw bethau clyfar wrth goginio ond  yn amlach na pheidio fe ddylwn wedi eu gadael yn y  llyfrau coginio.  Dyna i chi’r gacen Nadolig wnes i – i’m chwaer a nhad un Nadolig a rhoi potel gyfan o rym gyda’r cynhwysion oll. Sai’n siŵr a wnaethon nhw sobri am ddyddiau wedyn – ac roedd fy nhad yn ddirwestwr! Dyna’r gacen olaf i mi ei wneud iddyn nhw er mae gen i awydd ceisio eto eleni gyda’r teulu. Cawn weld. Lwc owt!